Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn unol â’r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf roi gwybod i’r Aelodau o’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ar 12 Chwefror 2025.
Cyfarfod rhithwir oedd hwn a gafodd ei gynnal gan Lywodraeth y DU. Roedd Rushanara Ali AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Fleur Anderson AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Gogledd Iwerddon yn bresennol yn y cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jamie Hepburn ASA, Gweinidog yr Alban dros Fusnes Seneddol, ac roedd Llywodraeth yr Alban yn cael ei chynrychioli gan swyddogion.
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i glywed diweddariad gan Lywodraeth y DU ar y cynlluniau ar gyfer diwygio etholiadol ac am Ddeddf Etholiadau’r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio) 2025 a gafodd ei deddfu yn ddiweddar. Roedd hefyd yn gyfle i roi diweddariad ar y gwaith sy’n parhau yn Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol.
Cafodd cyd-hysbysiad ynglŷn â’r cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar 25 Mawrth 2025 Interministerial Group for Elections and Registration Communique: 12 February 2025 - GOV.UK (Saesneg yn Unig)
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd a bwriedir cynnal cyfarfodydd bob chwarter. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau.