Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf gadarnhau wrth Aelodau’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ar 25 Ionawr.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithiol a'i gadeirio gan Lee Rowley AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Hefyd yn bresennol roedd George Adam ASA, Y Gweinidog dros Fusnes Seneddol, Llywodraeth Yr Alban a Steve Baker AS, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU.
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i glywed diweddariad gan Lywodraeth y DU ar weithredu Deddf Etholiadau 2022 ac ar ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar ddiwygio etholiadol, yn ogystal â rhoi ddiweddariad ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol.
Cyhoeddwyd Datganiad ar y cyd ynghylch y cyfarfod ar 3 Mawrth 2023 (dolen allanol, Saesneg yn unig).
Rydym yn parhau i gydweithio a bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter gyda threfniadau cadeirio sy’n cylchdroi. Byddaf yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau.