Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy'n eich hysbysu imi fynd i ail gyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo, a gynhaliwyd yn rhithiol ar 11 Gorffennaf, ac a ddaeth ag aelodau o'r pedair llywodraeth ynghyd.
Yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd yr Ysgrifennydd Cartref, y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman KC AS, a oedd yn ei gadeirio, ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Shirley-Anne Somerville ASA. Roedd Uwch Swyddogion o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon ac Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol yn absenoldeb y Gweinidogion.
Mynegais fy siom yn y cyfarfod nad oedd Llywodraeth y DU wedi ystyried pleidlais y Senedd i wrthod cydsynio i’r Bil Mudo Anghyfreithlon. Amlygais y pryderon sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r effaith negyddol y bydd y Bil yn ei chael ar blant ar eu pen eu hunain yng Nghymru sy’n ceisio lloches, a'r angen inni fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu canllawiau i sicrhau nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio.
Yn ystod y cyfarfod, roeddwn i hefyd wedi ailbwysleisio nod Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn Genedl Noddfa a'n hymrwymiad parhaus i symud ceiswyr lloches i ardaloedd gwasgaru a sicrhau cydlyniant cymunedol – gan gynnwys pa mor hanfodol yw cyfathrebu trylwyr a chyson rhwng darparwr preifat y Swyddfa Gartref ac Awdurdodau Lleol, er mwyn sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei tharged o ran llety. Soniais am y pryderon ynghylch y ffaith bod hyd y cyfnod i brosesu ceisiadau lloches yn cynyddu, a'r effaith negyddol y mae hynny yn ei chael ar y ceiswyr lloches a'r economi. Mewn cysylltiad â hynny, gofynnais unwaith eto am adolygiad o bolisi presennol Llywodraeth y DU sy'n atal ceiswyr lloches rhag gweithio am y deuddeng mis cyntaf ar ôl dod i'r DU.
Canmolais y gwaith caled sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llu'r Ffiniau i fynd i'r afael â'r mewnlifiad cynyddol o gyffuriau anghyfreithlon i'r DU, a chroesawais y gwaith presennol sy'n cael ei wneud i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Cymru i wella arferion rhannu gwybodaeth. Mynegais y byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan ym mhob achos sy’n ymwneud â throseddu a rhoddais sylw i fanteision defnyddio dull cydweithredol wrth fynd i'r afael â throseddu a bygythiadau i Ddiogelwch Cenedlaethol.
Mae cyd-hysbysiad byr wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU: Interministerial Group for Safety, Security and Migration Communiqué: 11 July 2023 (Saesneg yn Unig)