Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r manylion diweddaraf am waith Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd. Mae’r Grŵp wedi cwblhau ei waith ac wedi cyflwyno adroddiad gyda’i argymhellion.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 27 argymhelliad. Mae’n ategu’r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn ganolog o ran creu amgylchedd busnes sefydlog a ffafriol, ac mae’n tanlinellu pwysigrwydd hyrwyddo sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith economaidd gan gynnwys trafnidiaeth a thechnoleg gwybodaeth. Mae’r argymhellion yn ymdrin â nifer o feysydd cyfrifoldeb gweinidogol a sefydliadol.

Sefydlais y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg i edrych ar y berthynas rhwng y Gymraeg a Datblygu Economaidd ac i argymell ffyrdd o ddatblygu dulliau ymarferol o feithrin perthynas bositif. Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried yr opsiynau ym maes datblygu economaidd a’r Gymraeg a fyddai’n helpu i greu swyddi, twf economaidd ac yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Gofynnwyd hefyd iddynt ychwanegu at yr arferion da sydd eisoes yn digwydd i wneud argymhellion realistig, ymarferol a chyraeddadwy.

Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Telesgop, oedd cadeirydd y Grŵp, a’r aelodau oedd Elin Pinnell, Partner gyda Capital Law, yr Athro Dylan Jones Evans, Prifysgol Gorllewin Lloegr, y Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Martin Rhisiart, Prifysgol De Cymru ac Alun Shurmer, Dŵr Cymru. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad.

Bu’r Grŵp yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar, gwnaethpwyd cais agored am dystiolaeth a chynhaliwyd cyfweliadau gyda busnesau lleol hefyd. Roedd hyn oll yn llywio’r gwaith o lunio’r adroddiad a’r argymhellion.

Bydd y gwaith yn dechrau yn awr i asesu effeithiau a chostau posibl yr argymhellion. Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru i wneud sylwadau arno.

O ran y camau nesaf, mae rhai o’r argymhellion yn cwmpasu nifer o bortffolios gweinidogol ac rwyf wedi ysgrifennu at fy nghyd-aelodau o’r Cabinet am y materion hyn.

Mae rhai o’r argymhellion yn gofyn am ddull gweithredu seiliedig ar ardal benodol, a byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion yr Ardaloedd Menter a’r Dinas-ranbarthau i dynnu eu sylw at yr adroddiad. Byddaf yn ysgrifennu hefyd at Ardal Twf lleol Dyffryn Teifi yn gofyn iddyn nhw wneud sylwadau am ganfyddiadau’r adroddiad.

Mae’r gwaith hwn wedi ysgogi cryn ddiddordeb ym mhlith Aelodau’r Cynulliad a byddwn yn ddiolchgar felly pe baech yn ystyried y goblygiadau ac yn ymateb i mi erbyn dydd Mercher 16 Ebrill drwy 
WelshLangEconDev@cymru.gsi.gov.uk. Sylwer y gallai’r ymatebion gael eu cyhoeddi.

Bydd yr holl sylwadau a chyfraniadau hyn yn cael eu hystyried yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. Rwy’n bwriadu cyhoeddi’r ymateb hwnnw cyn Toriad yr Haf.