Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd, cyhoeddais fod Dr Anwen Elias wedi ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd. Mae’r Grŵp yn cael ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cynigiwyd set o ddiwygiadau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu panel arbenigwyr i ymchwilio i ddulliau arloesol o wella’r ddealltwriaeth o ddemocratiaeth.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer aelodau’r Grŵp bellach ar agor ac wedi ei chyhoeddi ar wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru: Penodiadau Cyhoeddus. Ein hamcan yw tynnu ynghyd ddylanwadwyr a chynghorwyr ym maes arloesi a chyfranogiad democrataidd a’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn cynnwys pobl ym mhrosesau democratiaeth. Rydym yn chwilio am unigolion sydd am gyfrannu at ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, er mwyn sicrhau bod gan bobl Cymru lais wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth.

Rydym yn credu y dylai Cymru fod yn uchelgeisiol wrth greu diwylliant democrataidd cydnerth, ac mae hwn yn gyfle i adfywio’r ffordd y mae pobl Cymru yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â’r sefydliadau a’r prosesau sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. 

Nid yw democratiaeth yn aros yn yr unfan. Mae cyfrifoldeb ar y gymdeithas ddinesig gyfan i sicrhau ei bod yn esblygu ac yn ffynnu. Bydd y grŵp hwn yn parhau â’r dull cydweithredol a chydsyniol o weithio a ddangoswyd gan y Comisiwn, i gryfhau’r gallu ar gyfer arloesi democrataidd a chynnwys dinasyddion yng Nghymru. 

Byddaf yn parhau i ddiweddaru’r Senedd ar ddatblygiadau yn y maes yma.