Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Chwefror 2021, agorodd peilot y Gronfa Mynediad i Swyddfa Etholedig Cymru ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll yn Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2021. Hwn oedd cam cyntaf y gronfa beilot.

Mae'r ail gam yn agor heddiw gyda lansiad y trefniadau i gefnogi ymgeiswyr anabl sy'n ceisio cael eu hethol yn yr etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Mae'r gronfa a ddarperir gan Anabledd Cymru ac sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yn talu am gymorth ymarferol i alluogi pobl anabl i gymryd rhan lawn yn y broses wleidyddol. Mae hyn yn cynnwys addasiadau rhesymol sy'n golygu bod y broses yn un gyfartal a theg i bawb – i ymgeiswyr anabl a’r rheini nad ydynt yn anabl – ond nid yw’n cynnwys costau ymgyrchu cyffredinol.

Gall unigolion wneud cais am gymorth gyda chostau ychwanegol ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt i oresgyn rhwystrau sy'n er mwyn eu galluogi i gymryd rhan yn yr etholiad. Gallai hyn gynnwys:

  • Cymhorthion cynorthwyol, offer a meddalwedd, addasiadau i offer.
  • Hyfforddiant ar ddefnyddio offer a meddalwedd arbenigol.
  • Teithio o amgylch yr etholaeth os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Cymorth personol, gweithwyr cymorth cyfathrebu fel Dehonglwyr BSL, Palanteipyddion a Siaradwyr gwefusau.

Mae mwy na 1,200 o gynghorwyr wedi'u hethol i 22 o brif gynghorau yng Nghymru. Yn ogystal â rhoi cymorth i ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu hethol i brif gynghorau, bydd y gronfa hefyd ar gael i gefnogi ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu hethol i gynghorau cymuned a thref yn yr etholiadau llywodraeth leol. Gyda mwy nag 8,000 o gynghorwyr yn cael eu hethol i 735 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru, bydd y gronfa hon yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl anabl gael eu cefnogi yn eu nod o gymryd rhan mewn democratiaeth leol er mwyn cefnogi eu cymunedau. Mae hyn yn allweddol i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth.

Mae'r trefniadau a lansiwyd heddiw yn cynnwys gwasanaeth cyngor a chymorth a ddarperir drwy Anabledd Cymru a fydd yn rhoi cyfle i unigolion drafod lefel y cymorth sydd ei hangen arnynt a'u cynorthwyo yn ôl yr angen gyda'r broses ymgeisio. Bydd nifer o ddigwyddiadau Mynediad i Wleidyddiaeth yn cael eu cynnal gan Anabledd Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Dylai unigolion sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am y gronfa a sut i wneud cais gysylltu ag Anabledd Cymru. Mae eu manylion cyswllt i’w gweld isod:

Gwefan: https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-elected-office-fund-wales/

E-bost: accesstopolitics@disabilitywales.org

Hoffwn ofyn i’r aelodau rannu'r ddolen hon yn eang ac annog pobl sydd â diddordeb mewn sefyll i gael swydd etholedig i ddysgu mwy am sut y gallai'r gronfa eu cefnogi yn etholiadau 2022.