Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a Carl Sargeant - y Gweinidog Tai ac Adfywio
Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein bod yn sefydlu’r Gronfa Gofal Canolraddol sy’n werth £50 miliwn. Mae’r Gronfa hon yn cynnwys cyllid refeniw o £35 miliwn o fewn y gyllideb Llywodraeth Leol a chyllid cyfalaf o £15 miliwn o fewn y gyllideb Tai ac Adfywio.
Defnyddir y Gronfa i hyrwyddo cydweithredu rhwng y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, ochr yn ochr â’r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol ar y llaw arall. Bydd yn cynorthwyo pobl i allu parhau i fyw’n annibynnol ac i aros yn eu cartrefi eu hunain. Caiff y Gronfa ei defnyddio hefyd i osgoi unrhyw fynediad diangen i’r ysbyty, neu dderbyniad amhriodol i ofal preswyl, yn ogystal ag atal unrhyw oedi wrth i bobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y cynnydd a’r meini prawf a gaiff eu defnyddio i asesu a chymeradwyo’r cynigion ar gyfer y cyllid.
Datblygwyd canllawiau a’u hanfon at Brif Weithredwyr Awdurdodau Lleol, Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfarwyddwyr Tai, Cyfarwyddwyr Cyllid a Chyfarwyddwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 22 Ionawr 2014. Fe’u cyhoeddwyd hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r canllawiau’n nodi prif amcanion y Gronfa a’r meini prawf ar gyfer asesu’r cynigion, lle mae pob cynnig llwyddiannus yn dangos yn glir:
- gweithio integredig drwy rôl a chyfraniad yr holl bartneriaid perthnasol yn y rhanbarth;
- trawsnewid hirdymor wrth ddarparu neu weithredu gwasanaethau fel eu bod yn gynaliadwy;
- darparu gwasanaethau a ffyrdd newydd neu ychwanegol o weithio, a sut y bydd hyn yn cael ei fesur, yn arbennig o fewn cyd-destun y canlyniadau i’r boblogaeth. Dylai gynnwys gwerth am arian, osgoi costau, neu arbedion, fel sy’n briodol, a gwerth ychwanegol;
- manteision a chanlyniadau i bobl hŷn, fregus ac oedrannus yn ogystal â’r rhai ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Mae’n rhaid iddynt ddangos hefyd sut y caiff y gwasanaethau integredig hyn eu gwella neu’u datblygu o fewn y rhanbarth;
- eu gwneud yn gydnaws ag amcanion strategol y Rhaglen Lywodraethu a chynlluniau cyflawni perthnasol;
- sut y rheolir y ddarpariaeth o fewn fframwaith llywodraethu manwl a thryloyw, gydag atebolrwydd arweiniad clir, cerrig milltir a mesur y cynnydd.
Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail Ôl-troed Cydweithredu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, y Canolbarth a’r Gorllewin, Gogledd Cymru, Bae’r Gorllewin a Gwent. Caiff y refeniw a’r cyllid cyfalaf ei reoli fel un gronfa gydgysylltiedig, i wneud y mwyaf o’r cymorth i bobl sydd angen gofal canolraddol, drwy becyn cydlynol o fesurau.
Nodwyd Awdurdod Lleol arweiniol ar gyfer pob Ardal Ôl-troed Cydweithredu Rhanbarthol. Maent ar hyn o bryd yn arwain datblygiad y cynigion mewn cydweithrediad â’u partneriaid.
Cynhaliwyd digwyddiadau rhanbarthol yn ystod mis Chwefror i gefnogi datblygiad y cynigion. Mae’r rhain wedi rhoi cyfle am drafodaethau manylach rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid o fewn pob rhanbarth i egluro pwrpas y Gronfa a rhannu gwybodaeth am y dull o weithredu a’r cynigon sy’n cael eu datblygu.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw ganol dydd ar 7 Mawrth 2014. Sefydlwyd Panel sy’n cynnwys arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Llywodraeth Leol a thai, swyddogion cyllid ac academydd allanol i adolygu’r cynigion. Caiff y cynigion eu cyflwyno am gymeradwyaeth Weinidogol, a chaiff y penderfyniadau terfynol eu gwneud erbyn dechrau’r flwyddyn ariannol 2014-15.
Byddwn yn darparu diweddariad pellach i’r Aelodau gyda mwy o fanylion am y cynigion a gymeradwyir.