Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae chwaraeon yn bwysig ar gyfer ein heconomi a'n lles meddyliol a chorfforol. Byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth inni adfer ac iacháu yn dilyn y pandemig, ac yn ein helpu i ddatblygu cenedl iachach a gwydn, yn ogystal â darparu gobaith ac ysbrydoliaeth drwy lwyddiant chwaraeon Cymru gartref a thramor.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Gronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr gwerth £17.7 miliwn. Bydd y gronfa hon yn helpu'r sector i ymateb i'r heriau parhaus sy'n deillio o bandemig y coronafeirws. Cafodd ei chynllunio i darparu cymorth ariannol brys i chwaraeon gwylwyr ar gyfer weddill cyfnod y gaeaf i sicrhau y bydd chwaraeon yn barod ar gyfer dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.
Ers dechrau'r pandemig, ac yn dilyn cyflwyno mesurau cenedlaethol i reoli lledaeniad y feirws, daeth chwaraeon gwylwyr ledled Cymru i ben yn sydyn wrth i leoliadau, gweithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau gael eu cau, eu canslo neu eu gohirio.
Mae'r pecyn cyllid yn adlewyrchu canlyniadau dadansoddiad o anghenion ac asesiad o'r effaith ar chwaraeon, yn seiliedig ar y dybiaeth nad yw gwylwyr yn debygol o ddychwelyd mewn niferoedd sylweddol cyn yr haf.
Isod mae dadansoddiad o'r cyllid:
Sport |
Cyllid Grant 2020-21 (£ miliwn) |
---|---|
Rygbi’r Undeb |
13.5 |
Pêl-droed |
1.5 |
Rasio Ceffylau |
1.2 |
Criced |
1.0 |
Hoci Iâ |
0.2 |
Rygbi’r Cynghrair |
0.2 |
Pêl-rwyd |
0.1 |
Cyfanswm |
17.7 |
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid i nodi a oes angen unrhyw gyllid ychwanegol drwy fenthyciadau i helpu sefydliadau i oroesi’r argyfwng parhaus hwn.