Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cyhoeddi enwau'r 17 o brosiectau a fydd yn elwa ar ein Cronfa Byw'n Iach ac Egnïol gwerth £5.4m.  Bydd pob un o'r prosiectau hyn yn cyfrannu at wella asedau cymunedol a galluogi pobl i fyw'n fwy iach.

Pan gafodd ein Cronfa Byw'n Iach ac Egnïol ei lansio fis Gorffennaf y llynedd, pwysleisiwyd bod y manteision i'n hiechyd meddyliol a chorfforol a ddaw o fyw'n iach ac yn egnïol, yn glir.  Mae'r prosiectau hyn yn dangos ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi pobl o bob oedran a chefndir.

Mae’r holl brosiectau llwyddiannus yn rhai cydweithredol a chânt eu darparu gan ystod o bartneriaid.  Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys ardal Tasglu'r Cymoedd. Mae'r prosiectau a ddewiswyd yn ceisio lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau a rhwystrau mewn amrywiaeth o ffyrdd.   O weithio ar draws cenedlaethau i arddio; annog teuluoedd i gadw'n heini gyda'u babanod newydd; a chynyddu gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae prosiectau eraill yn ceisio cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i fyw bywydau annibynnol a heini yn yr hirdymor, ac mae un yn defnyddio atgofion am chwaraeon i helpu pobl sydd â dementia.

Dyma'r 17 o brosiectau llwyddiannus:-

  • ‘Sporting Memories’ – Dan arweiniad Cwmni Buddiant Cymunedol Sporting Memories Network
  • ‘Growing Together’ – Dan arweiniad Cadwch Gymru'n Daclus
  • ‘Balanced Lives for Care Homes’ – Dan arweiniad Action for Elders Trust
  • ‘HAPPy’ – Dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • ‘Super-Agers’ – Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • ‘Dewch i Gerdded Gorllewin Cymru’ – Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • ‘Coed Actif Cymru' – Dan arweiniad Coed Lleol
  • ‘Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru’ – Dan arweiniad Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • ‘Casnewydd Iach ac Actif’ – Dan arweiniad Casnewydd Fyw
  • ‘Llysgenhadon Chwarae’ – Dan arweiniad Chwarae Cymru
  • ‘Babi Actif’ – Dan arweiniad Eryri-Bywiol Cyf
  • ‘Healthy Body – Healthy Mind Project’ – Dan arweiniad Women Connect First
  • ‘Pum ffordd at Les’ – Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • ‘StreetGames’ - Dan arweiniad Street Games UK Ltd
  • ‘Opening Doors to the Outdoors’ – Dan arweiniad y Bartneriaeth Awyr Agored
  • ‘Cyfeillion Cerdded Cymru’ – Dan arweiniad Living Streets Cymru
  • ‘BeActive RCT’ – Dan arweiniad Interlink Rhondda Cynon Taf