Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021


Heddiw mae Llywodraeth Cymru'n lansio cylch ymgeisio nesaf y Gronfa Buddsoddi i Arbed ar gyfer 2018-19.

Ers 2009, mae'r Gronfa wedi cefnogi dros 180 o brosiectau, gyda chyfanswm gwerth o dros  £174m. Mae'r prosiectau hyn wedi bod ar waith ledled Cymru a hynny ym maes TGCh, ffyrdd newydd o weithio; a chynllunio'r gweithlu.

Ym mhob cylch ymgeisio, mae ystod eang o gynigion yn cael eu cyflwyno - bwriedir i rai wireddu arbedion ariannol ac i rai eraill wella'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau. Mae rhai'n gofyn am fuddsoddiad sylweddol tra bo eraill yn llai o ran eu maint.  

Eleni, rydym yn gofyn i sefydliadau ystyried pam y byddai rhai o'r heriau mawr y maent yn eu hwynebu yn gweddu i'r model ariannu a gynigir gan Fuddsoddi i Arbed. Gallai cynigion fod ar gyfer ateb Cymru gyfan neu ar gyfer syniadau mwy lleol, a allai gael eu cyflwyno'n ehangach os byddant yn llwyddiannus.

Rydym am i gyrff fod yn uchelgeisiol o ran eu dyheadau. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb i'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yw 31 Gorffennaf.  

Ers i'r adroddiad diwethaf ar Fuddsoddi i Arbed gael ei gyhoeddi, rydym wedi lansio'r Fenter Arloesi i Arbed gyda Nesta, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.  

Yn sgil y cais cyntaf am brosiectau cafwyd 50 o gynigion, ac fe gafodd wyth o'r rhain eu dewis ar gyfer y cam ymchwil a datblygu. Mae'r gyfran gyntaf bellach yn dirwyn i ben ac mae'r prosiectau'n datblygu eu hachosion busnes terfynol. Agorodd yr ail gylch ymgeisio ar gyfer Arloesi i Arbed ym mis Chwefror  - y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16 Gorffennaf. Rwyf yn falch o roi gwybod bod y galw am y gronfa hon yn parhau.  

Gyda'i gilydd mae Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed yn rhoi i sefydliadau ddewis gwirioneddol o ddewisiadau ariannu ar gyfer eu cynigion. Mae cyrff sydd â syniadau sydd yn nyddiau cyntaf eu datblygiad lle mae angen ymchwil i weld pa mor hyfyw ydynt, yn gallu gwneud cais i'r Gronfa Buddsoddi i Arbed am gymorth; mae prosiectau sy'n barod i gael eu cyflwyno yn gymwys am y Gronfa Buddsoddi i Arbed.  

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd ar y ddau gylch ymgeisio ac am y prosiectau i'w cefnogi gan Fuddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed cyn gynted â phosibl.

I gyd-fynd â chylch ymgeisio Buddsoddi i Arbed, mae Adroddiad Blynyddol Buddsoddi i Arbed yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae ar gael yn: https://gov.wales/topics/improvingservices/invest-to-save/annual-report?skip=1&lang=cy