Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Llywodraeth Cymru yn hollol ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir i bobl Cymru yn bodloni'r safonau uchaf. Wrth inni symud tuag at ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd angen i gyrff cyhoeddus feddwl yn ofalus ynghylch sut y gallant ymateb i'r newidiadau a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer ein cymunedau.
Er mwyn eu helpu i wneud hynny, ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi sefydlu Cronfa Pontio Ewropeaidd werth £50 miliwn, i helpu sefydliadau ledled Cymru i ymbaratoi ar gyfer effeithiau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi bod cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gyllid gan y Gronfa hon wedi llwyddo a bod £150k wedi ei ddyrannu iddi.
Bydd y cyllid hwn yn helpu'r Gymdeithas i ddarparu pecyn cymorth Pontio Ewropeaidd ar gyfer pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan eu helpu i fagu gwytnwch a gweithredu mewn modd sy'n canolbwyntio'n gryf ar yr hyn y mae angen ei wneud wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.