Dafydd Elis Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae’r pandemig yn parhau i greu heriau i weithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau ac yn y maes creadigol ar draws Cymru. Rydym yn edmygu eu cydnerthedd a’u creadigrwydd gydol y cyfnod hwn.
Mae’r Gronfa Adferiad Diwylliannol sydd werth £63m wedi darparu cymorth hanfodol i gynnal sector y celfyddydau a’r sector creadigol. Y gobaith yw sicrhau y bydd sefydliadau ac unigolion yn gallu ffynnu unwaith eto yn fuan iawn.
Mae’r Gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd eisoes wedi cefnogi bron i 3,500 o weithwyr llawrydd yn ystod y tri cham cyntaf.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw bod £8.9m yn ychwanegol ar gael o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol ar gyfer gweithwyr llawrydd. Bydd yn golygu bod pob un o’r gweithwyr llawrydd sydd eisoes wedi derbyn cymorth yn derbyn cyfraniad ychwanegol o £2,500 er mwyn eu cefnogi gydol y cyfnod estynedig hwn o weithgarwch llai.
Mae’r sector gweithwyr llawrydd yn chwarae rhan allweddol o fewn economi Cymru ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cymorth ychwanegol. Mae hyn yn cydnabod eu cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol Cymru.