Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pandemig, a'r cyfyngiadau yr oedd angen i Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i gadw Cymru'n ddiogel, wedi parhau i gael effaith sylweddol ar y sector diwylliannol.   

Yn dilyn cyflawni cam cyntaf y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a roddodd gymorth i 646 o fusnesau a 3,500 o unigolion drwy gyllid gwerth £63 miliwn, hoffwn roi crynodeb pellach i'r Aelodau o'r cymorth a ddarparwyd eleni.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn er mwyn i ail gam y cyllid barhau i gefnogi'r sector – unwaith eto rhannwyd y gronfa yn dair elfen allweddol. Rhoddwyd yr ail gam hwn ar waith i gefnogi'r sector tan ddiwedd mis Medi.

Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am weithio’n agos gyda ni ar y pecyn cymorth hwn. Mae Cyngor y Celfyddydau wedi rhoi cyfanswm o £8.8 miliwn i 127 o sefydliadau celfyddydol.

Yn rhan o'r ail rownd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi busnesau a sefydliadau ym meysydd y diwydiannau creadigol, digwyddiadau, treftadaeth a diwylliant. Fel y mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r economi ymwelwyr, ac erbyn diwedd y mis hwn byddwn wedi rhoi £19 miliwn i fwy na 500 o sefydliadau.

Mae ail rownd y Gronfa i Weithwyr Llawrydd wedi cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Rwy’n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth barhaus. Drwy'r rownd ddiweddaraf hon byddwn wedi cefnogi 720 o weithwyr llawrydd gyda chyllid gwerth £1.8 miliwn.

Yn ystod dau gam y Gronfa Adferiad Diwylliannol rydym wedi darparu £93 miliwn o gyllid sydd wedi cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y sectorau allweddol hyn. 

Rydym wedi ymgorffori’r Contract Diwylliannol ac Adduned y Gweithwyr Llawrydd a’r Sector Cyhoeddus yn y Gronfa Adferiad Diwylliannol i annog gwaith teg, arferion cyflogaeth da a rhagor o gydweithio ar draws y sector.

Rydym yn parhau i gysylltu â'r sector wrth inni barhau i lacio'r cyfyngiadau a pharatoi ar gyfer lefel rhybudd sero newydd a dyfodol gyda llai o reolau cyfreithiol. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen am unrhyw gymorth ychwanegol i sicrhau cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol.