Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn sgil ailddechrau caniatáu teithio rhyngwladol nad yw’n hanfodol ar 17 Mai, i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, mae wedi bod yn ofynnol i bob teithiwr sy’n cyrraedd y DU gael prawf PCR wrth iddynt ddychwelyd.
O dan y rheolau presennol, mae preswylwyr Cymru wedi gorfod prynu prawf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae’r rheolau hyn yn wahanol i’r rheini ar gyfer pobl sy’n byw mewn rhannau eraill o’r DU – gall y bobl hynny brynu profion oddi wrth ddarparwyr preifat.
Rydym wedi bod yn bryderus am y diffyg trefniadau diogelu ar gyfer defnyddwyr ac iechyd y cyhoedd yn y sefydliadau ar y rhestr ehangach o ddarparwyr profion preifat ar wefan GOV.UK. Nodwyd nifer o faterion, gan gynnwys hysbysebu prisiau anghywir a chamarweiniol, cyflenwi profion yn araf a pheidio â chynnwys profion a chanlyniadau a broseswyd yn systemau Cymru.
Yn ystod yr haf rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill i ddatrys y pryderon hyn a gwneud cynnydd tuag at sefydlu rhestr o ddarparwyr profion preifat sy’n cyrraedd y safonau y cytunwyd arnynt ac sy’n cadw at drefniadau trosolwg a monitro priodol.
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi cynnal adolygiad i’r farchnad profion PCR ar gyfer teithio, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Ar 10 Medi, cyhoeddodd yr Awdurdod adroddiad a oedd yn cynnwys argymhellion i’w hystyried gan Lywodraeth y DU. Nododd yr adroddiad na fydd cystadleuaeth yn unig yn sicrhau’r canlyniadau cywir i ddefnyddwyr yn y farchnad profion PCR a bod angen cyfuniad o reoleiddio a gorfodi. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod marchnad profion PCR heb ei rheoleiddio’n ddigonol yn risg bosibl i iechyd y cyhoedd ac mai ychydig iawn o farchnadoedd sydd wedi datblygu mor gyflym ac wedi cael cymaint o effaith ar fywydau pobl.
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth y DU, gan gynnwys gofynion uwch ar gyfer cynnwys darparwyr ar y rhestr ar wefan GOV.UK, gorfodaeth a monitro cynhwysfawr a chosbau ar gyfer y rheini sy’n methu â chydymffurfio.
Yn sgil adolygiad cyflym, a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar yr un adeg, cafodd 91 o gwmnïau eu tynnu oddi ar y rhestr a chymerwyd camau yn erbyn 135 o gwmnïau eraill. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn bwriadu cynnal hapwiriadau a gwiriadau dilysu rheolaidd ar brisiau a chyhoeddi gwell canllawiau i ddefnyddwyr a darparwyr profion preifat.
Bydd hefyd yn gweithredu safonau deddfwriaethol newydd ar gyfer darparwyr profion preifat o 21 Medi, i sicrhau bod canlyniadau profion a dadansoddiadau o’r dilyniant genomig yn cael eu prosesu a’u hadrodd yn gyflym ac o fewn cyfnod tebyg i brofion y GIG. Bydd darparwyr sy’n methu â chydymffurfio â’r gofynion newydd yn wynebu cosbau ariannol.
Rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â’r pryderon sylweddol y gwnaethom eu codi gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig o ran cyflwyno safonau rheoleiddio newydd ar 21 Medi.
Rwyf hefyd yn disgwyl gweld gwelliannau pellach yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a bydd derbyn a gweithredu’r argymhellion yn gwella canlyniadau ymhellach.
O ganlyniad i’r rheoliadau newydd ac effaith y safonau ar brofion preifat, byddwn yn gwneud newidiadau i’r rheolau i alluogi pobl sy’n teithio i Gymru archebu profion gyda darparwyr sector preifat, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn ogystal phrofion y GIG. Daw’r newidiadau hyn i rym o 21 Medi i gyd-fynd â’r safonau newydd a ddaw i rym yn Lloegr.
Rydym yn parhau i gynghori’n gryf, oherwydd y risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolynnau newydd ac sy’n dod i’r amlwg o’r feirws na fydd brechlynnau o bosibl yn cael effaith arnynt, na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod y daith yn hanfodol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.