Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol imi adrodd bob dwy flynedd o leiaf ar y graddau y mae’r Awdurdodau Tân ac Achub wedi gweithredu’n unol â’n Fframwaith Cenedlaethol diweddaraf ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub, a gafodd ei gyhoeddi yn 2016. Fis Chwefror 2020 oedd y tro diwethaf imi gyhoeddi adroddiad cynnydd ar ba mor llwyddiannus yr oedd y Gwasanaethau Tân ac Achub wedi gweithredu’n unol â’r fframwaith hwnnw. Yn fuan ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwnnw, roedd Cymru, ac yn wir y byd i gyd, wedi gorfod canolbwyntio ar ymateb i her ddigynsail y pandemig COVID-19. Mae’r pandemig yn amlwg wedi bod yn flaenllaw, ac mae wedi rheoli sut yr ydym i gyd wedi gorfod byw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi creu heriau sylweddol i bawb, gan gynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus.

O ganlyniad i’r amgylchiadau eithriadol hyn, rwy’n credu mai canolbwyntio ar ba mor llwyddiannus y mae’r Awdurdodau Tân ac Achub wedi perfformio ac addasu i heriau’r pandemig sy’n newid yn barhaus sydd orau inni ei wneud.

Drwy gydol y pandemig, mae’r Awdurdodau Tân ac Achub wedi parhau i ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn broffesiynol, ac wedi addasu eu gwasanaethau mewn modd sy’n sicrhau diogelwch eu staff a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae gallu ein gwasanaethau rheng flaen i ddarparu ymateb brys wedi cael ei gynnal yn unol â’r safonau uchel y byddem yn eu gweld fel arfer. Er mwyn cyflawni hyn, cafodd galwadau brys eu blaenoriaethu gan yr Awdurdodau. At hynny, cynhaliwyd asesiadau risg llawn mewn perthynas â COVID a darparwyd cyfarpar diogelu personol ychwanegol i ddiffoddwyr tân er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a’r cyhoedd.  

Yn ystod y pandemig, er inni weld amrywiadau rhanbarthol, yn gyffredinol bu lleihad sylweddol yn nifer y tanau mewn cartrefi i’r nifer isaf erioed, er gwaethaf y ffaith bod llawer o bobl yn gweithio gartref a theuluoedd yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi hefyd yn ystod cyfnodau’r cyfyngiadau llym. Mae hyn yn adlewyrchu’r buddsoddiad yr ydym ni a’r Awdurdodau Tân ac Achub wedi ei wneud mewn trefniadau diogelwch tân domestig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er nad oes lle inni orffwys ar ein rhwyfau mewn perthynas â’r mater hwn yn amlwg. Bu gostyngiad hefyd yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, gyda hynny’n ddim syndod o bosibl, oherwydd y nifer mawr o bobl a oedd yn gweithio gartref a’r cyfyngiadau ar deithio. Roedd nifer y tanau a gafodd eu cynnau’n fwriadol hefyd wedi gostwng yn ystod y cyfnod adrodd, ac mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn haeddu canmoliaeth am y dull gweithredu amlasiantaeth parhaus a fabwysiadwyd ganddynt er mwyn atal tanau bwriadol, drwy Dasglu Dawns Glaw a thrwy negeseuon diogelwch y cyhoedd cyson a oedd wedi’u targedu’n benodol. 

Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub hefyd wedi parhau i ddarparu amrywiaeth eang o fentrau diogelwch cymunedol. Er bod angen gohirio llawer o fentrau wyneb yn wyneb dros dro, gwnaeth yr Awdurdodau addasu’n dda. Cafodd gwiriadau diogelwch cartrefi ar gyfer y rheini sydd fwyaf agored i niwed o dân yn y cartref eu blaenoriaethu, a mabwysiadwyd system frysbennu ar gyfer Cymru gyfan i asesu a oedd angen cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb ai peidio. Gweithiwyd hefyd gydag awdurdodau lleol er mwyn parhau i ddarparu addysg drwy Hwb a phlatfformau eraill i ysgolion. O ran y rheini a oedd yn y perygl mwyaf, cynhaliodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yr asesiadau risg angenrheidiol, gan ddarparu cyfarpar diogelu personol llawn i ddiogelu diffoddwyr tân a’r cyhoedd. O ran achosion risg is, darparodd yr Awdurdodau Tân ac Achub gyngor i ddeiliaid tai dros y ffôn neu ar-lein, gan anfon cyfarpar diogelwch tân cartrefi drwy’r post neu eu cludo’n uniongyrchol i’r drws. Hefyd, cynhaliwyd archwiliadau diogelwch tân o bell i fusnesau pan oedd hynny’n bosibl, gan roi cyngor dros y ffôn i sefydliadau risg uchel megis cartrefi gofal. Drwy flaenoriaethu fel hyn, roedd yr Awdurdodau Tân ac Achub yn gallu sicrhau bod y rheini a oedd yn y perygl mwyaf yn y gymuned yn parhau i gael eu diogelu, a chynhaliwyd ymweliadau â safleoedd penodol er mwyn sicrhau bod systemau diogel yn cael eu cynnal. Bellach, mae’r Awdurdodau wedi dechrau gwerthuso’r dulliau gweithredu hyn er mwyn gweld i ba raddau y byddai’n bosibl eu mabwysiadu’n barhaol. Mae’r dulliau gweithredu arloesol hyn wedi helpu i leihau costau ac allyriadau carbon – rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu. 

Mae’r pandemig wedi dangos yn glir hefyd ei bod mor werthfawr ac yn gwbl angenrheidiol i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd. Roedd COVID-19 yn golygu nad oedd y gorsafoedd yn y Canolbarth a’r Gorllewin, sy’n ymateb i ddigwyddiadau meddygol ar ran Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn gallu gwneud hynny mwyach. Fodd bynnag, parhaodd pob un o’r tri Awdurdod Tân ac Achub i gefnogi’r Ymddiriedolaeth a’r GIG yn ehangach. Gwirfoddolodd oddeutu 450 o ddiffoddwyr tân a staff eraill i yrru ambiwlansys, a chludo unigolion agored i niwed i gael eu brechiadau COVID. Yn ogystal â hynny, defnyddiodd yr Awdurdodau Tân ac Achub nifer o’u hunedau dihalogi torfol mewn ysbytai, lle y defnyddiwyd yr unedau fel cyfleusterau brysbennu COVID-19 dros dro. Er nad oedd angen y cymorth hwn ar raddfa fawr, dangosodd yr Awdurdodau eu hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd drwy eu parodrwydd i ymateb yn gyflym i helpu’r GIG yn ôl yr angen. 

Er mwyn cyflawni hyn, roedd yn amlwg bod angen i’r Awdurdodau Tân ac Achub barhau i gadw eu gweithlu mor ddiogel â phosibl drwy weithredu mesurau rheoli COVID trwyadl iawn, datblygu asesiadau risg pwrpasol, a darparu cyfarpar diogelu personol priodol. Mae’n dda gennyf adrodd eu bod wedi gwneud hynny yn llwyddiannus. Ar y cyfan, mae’r lefelau absenoldeb wedi bod yn hydrin drwy gydol y pandemig, er y gwelwyd cyfnodau o bwysau eithafol yn ystod y don Omicron. Yn wir, bu gostyngiad yng nghyfanswm yr absenoldebau salwch ymhlith diffoddwyr tân yn ystod 2020-2021.

Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub hefyd wedi addasu eu trefniadau llywodraethu mewn ymateb i’r pandemig. Caniataodd y buddsoddiad mewn systemau TG i gyfarfodydd yr Awdurdodau gael eu cynnal yn effeithiol o bell yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol 2020. Mae hynny hefyd wedi lleihau costau teithio ac allyriadau carbon. Oherwydd natur eu gwaith, mae dal i fod angen i’r rhan fwyaf o staff fod yn bresennol yn eu gweithle, ond i rai aelodau o staff mae gweithio o bell neu’n fwy hyblyg yn cynnig y posibilrwydd o weithio mewn modd mwy effeithlon a chynaliadwy yn y dyfodol.

At ei gilydd, mae’n dda gennyf adrodd bod yr Awdurdodau Tân ac Achub wedi llwyddo i gynorthwyo partneriaid eraill drwy gydol pandemig byd-eang, a’u bod ar yr un pryd wedi darparu gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol, er gwaethaf yr heriau sylweddol y maent wedi’u hwynebu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r holl staff am eu hymroddiad diflino yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub wedi parhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac wedi dangos lefel uchel o gadernid yn wyneb yr heriau sydd wedi codi dros y ddwy flynedd diwethaf. Drwy addasu eu hymateb a blaenoriaethu gweithgarwch brys a’r angen i ddiogelu’r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, maent yn ddiamau wedi gallu sicrhau bod ein cymunedau wedi parhau’n ddiogel rhag perygl tân ac argyfyngau eraill.

Fodd bynnag, mae heriau sylweddol o’n blaenau yn y dyfodol. Mae angen i’r gwerth sy’n cael ei roi ar gydweithio barhau – dyna beth mae’r pandemig wedi ei ddysgu inni. Mae gan y Gwasanaeth Tân ac Achub y gallu a’r potensial i gefnogi’r GIG. Mae angen meithrin cyfleoedd i wasanaethau weithio gyda’i gilydd, a chynnal ac ymwreiddio’r cyfleoedd hynny ar sail barhaus a byddem yn disgwyl i’r Awdurdodau Tân ac Achub barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, undebau’r diffoddwyr tân a chyrff cynrychioladol eraill i wireddu hyn. Dylai’r Awdurdodau hefyd weithredu ar ganfyddiadau’r adolygiad o batrymau gweithio a gyhoeddwyd gan ein Prif Gynghorydd Tân ac Achub ym mis Rhagfyr y llynedd.  

Ar wahân i hynny, mae dal angen dysgu gwersi yn sgil tân Tŵr Grenfell, a ddigwyddodd ar ôl i’r Fframwaith presennol gael ei gyhoeddi, wrth gwrs, a rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith yn llawn. Er fy mod yn fodlon bod yr Awdurdodau Tân ac Achub wedi ymgysylltu’n llwyr â’r gwaith hwn, mae angen gwneud newidiadau pellgyrhaeddol o hyd o ran y ffordd yr ydym yn sicrhau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl mawr. Mae angen gweithredu hefyd i sicrhau bod Awdurdodau Tân ac Achub yn cyflawni ein huchelgais o allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Er bod gwaith da eisoes wedi cael ei wneud yn y cyd-destun hwn, mae angen gwneud rhagor eto, yn enwedig mewn perthynas ag allyriadau cerbydau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Awdurdodau Tân ac Achub a’r cyrff sy’n cynrychioli’r diffoddwyr tân wrth inni weithio i sicrhau’r canlyniadau hyn a chanlyniadau cadarnhaol eraill. Byddaf yn adlewyrchu’r rhain yn y diweddariad nesaf o’r Fframwaith Cenedlaethol, yr wyf yn bwriadu ei gyhoeddi erbyn diwedd 2022/23.