Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol imi adrodd o leiaf bob dwy flynedd ar i ba raddau y mae'r Awdurdodau Tân ac Achub wedi gweithredu yn unol â'n Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub. Fe gyhoeddodd y cyn Weinidog Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yr adroddiad diwethaf ar y mater hwn ym mis Gorffennaf 2017. Byddaf yn cyhoeddi adroddiad pellach a manylach yn yr hydref, ar ôl i'r data ar gyfer 2018-19 ddod i law.

Daeth adroddiad 2017 yn union ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, sy'n parhau'n atgof cryf ac amlwg o'r bygythiad difrifol y mae tân yn ei beri, a pha mor hanfodol yw ein gwasanaethau tân ac achub. Cafodd hyn ei amlygu eto yn ystod yr haf y llynedd, pan arweiniodd y tywydd poeth at lawer o danau glaswellt difrifol ledled Cymru. Mae pob un ohonom yn dibynnu ar broffesiynoldeb, ymroddiad a dewrder ein diffoddwyr tân i'n cadw'n ddiogel, hyd yn oed os nad ydym erioed wedi galw arnynt yn uniongyrchol. 

Yn hynny o beth, maent wedi bod yn hynod lwyddiannus. Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o danau wedi parhau i ostwng ers blynyddoedd, ac wedi haneru ers i'r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005. Gwelwyd llwyddiant arbennig wrth ostwng nifer y tanau a gynnwyd yn fwriadol - nid yn unig ar laswelltir, ond hefyd i wastraff, cerbydau segur ac adeiladau gwag.  Mae nifer yr anafiadau a'r marwolaethau mewn tanau hefyd wedi gostwng yn sydyn, ac roedd tanau mewn anheddau - sef y bygythiad mwyaf i fywyd o bell ffordd - wedi disgyn yn bellach ac yn gyflymach nag unrhyw le arall yn y DU erbyn mis Mawrth 2018. Er y gellid priodoli'r tueddiadau hyn yn rhannol i newidiadau cymdeithasol ehangach, megis y gostyngiad yn y nifer sy'n smygu, mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn haeddu clod hefyd am eu ffocws cynyddol ar atal tân a gwella diogelwch tân. 

Hoffwn hefyd roi sylw i'r ffordd y gwnaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub ymateb ar ôl trychineb Tŵr Grenfell.  Aeth ein diffoddwyr tân a'n swyddogion diogelwch tân ati'n gyflym i roi sicrwydd i'r rheini a oedd yn byw mewn blociau uchel o fflatiau, ac i nodi adeiladau lle roedd angen mesurau diogelwch ychwanegol.  Mae uwch-swyddogion tân yn parhau i chwarae rhan ganolog a hollbwysig wrth gynllunio ein system newydd ar gyfer rheoleiddio diogelwch tân, ac rwy'n hyderus y bydd yr holl wersi o drychineb Grenfell yn cael eu dysgu a bydd y risg o ddigwyddiad tebyg yng Nghymru yn cael ei leihau. 

Mae gwella diogelwch tân ac ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i danau ac argyfyngau eraill ymhlith y prif flaenoriaethau yn ein Fframwaith, ac ar y cyfan, mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn eu cyflawni. Fodd bynnag, ceir rhai arwyddion o broblemau manylach, er enghraifft mewn perthynas ag atal tanau mewn anheddau a nifer yr anafiadau a'r marwolaethau ynddynt. Byddaf yn adrodd ymhellach ar y rhain yn yr hydref, ar ôl gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi pellach.

Mae'r llwyddiant a welwyd wrth leihau nifer yr achosion o danau hefyd yn cyflwyno her. Ni ddylai hyn olygu bod angen gostwng capasiti'r gwasanaethau tân ac achub ar yr un raddfa, a hynny i lefel anniogel, gan fod angen gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i argyfyngau ar unrhyw adeg.  Ac ni fyddai hynny ychwaith yn deg ar y diffoddwyr tân rydym yn dibynnu arnynt. Yn hytrach, mae angen i'r gwasanaeth tân addasu er mwyn ehangu ei gylch gwaith.  Dyna pam bod ein Fframwaith yn nodi bod angen i'r Awdurdodau Tân ac Achub newid, er mwyn mynd i'r afael â'r her hon yn ogystal â heriau eraill, megis cyni a phoblogaeth sy'n heneiddio. 

Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd da yn y maes hwn. Mae dyletswydd ar ein Hawdurdodau Tân ac Achub bellach i ymateb i lifogydd a digwyddiadau eraill yn ymwneud â dŵr, sy'n sefyllfa unigryw yn y DU; ac mae gan ddau o'r tri Awdurdod allu arbenigol uchel ei barch i ymateb i ymosodiadau gan derfysgwyr; ac, yn arbennig yn y Canolbarth a'r Gorllewin, mae diffoddwyr tân bellach yn ymateb i argyfyngau meddygol i gefnogi'r Ambiwlans Awyr, gan achub llawer o fywydau. Mae'n glir bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn cydweithio'n effeithiol, ac felly'n cyflawni un o flaenoriaethau eraill ein Fframwaith.

Ond, er mwyn gallu ehangu'r rôl yn llawn, mae angen i'r amodau a'r cyflog newid hefyd.  Mae hynny wedi bod yn destun trafodaethau hirfaith ar draws y DU rhwng cyflogwyr ac undebau. Er bod y ddwy ochr yn cytuno bod angen newid, a bod angen i'r cyflog adlewyrchu'r rôl ehangach, mae bwlch mawr rhyngddynt o hyd o ran y manylion. Rydym wedi ei gwneud yn glir i'r ddwy ochr ein bod yn barod i gefnogi bargen fforddiadwy sy'n gweithio i Gymru ac i'n diffoddwyr tân; ond dim ond ar ôl cael cytundeb rhwng cyflogwyr ac undebau y gallwn wneud hynny. 

Os bydd hynny'n digwydd, dim ond dechrau'r broses fydd hynny. Mae ehangu'r rôl yn golygu mwy nag adolygu contractau a chyfraddau cyflog y diffoddwyr tân. Bydd yn golygu gwneud newidiadau pellgyrhaeddol i adnoddau, gallu, hyfforddiant a diwylliant Awdurdodau Tân ac Achub. Bydd hynny yn her arall, ond mae'n hanfodol ein bod yn ateb yr her hon er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Gwasanaeth.

Mae hynny'n arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig.  Y tu allan i'n trefi a'n dinasoedd mwyaf, mae'r rhan fwyaf o ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl galw - hynny yw, cânt eu galw o'u cartrefi neu eu gweithleoedd a'u talu yn unol â hynny. Ond mae'r gostyngiad yn nifer y tanau yn golygu bod llai iddynt ei wneud, gan arwain at lai o incwm a boddhad yn eu swyddi.  O'r 106 o orsafoedd tân ar ddyletswydd yn ôl galw yng Nghymru, mae 74 fel arfer yn ymateb i lai nag un tân neu wrthdrawiad traffig ffyrdd bob wythnos, a 33 ohonynt i lai nag un pob pythefnos. Ond mae'r ymrwymiad i fod ar alw ac ar gael i fod ar ddyletswydd ar fyr-rybudd, fel arfer am 120 o oriau pob wythnos, yn parhau yr un fath. Mae nifer o ddiffoddwyr tân ar alw yn ei gweld hi'n anodd cynnal hyn, ac mae'n dod yn anos eu recriwtio a'u cadw.  Oni bai ein bod yn ehangu cylch gwaith diffoddwyr tân ac yn gwneud y swydd yn fwy deniadol ar lefel ariannol a phersonol, bydd hyfywedd hirdymor gwasanaethau tân ac achub mewn ardaloedd gwledig o dan fygythiad mawr.

Yn gyffredinol, rwy'n fodlon bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn gwneud cymaint â phosibl i werthfawrogi a datblygu'r gweithlu - un arall o flaenoriaethau ein Fframwaith. Ond ceir heriau mwy a mwy hirdymor yn y maes hwn, sydd o bosibl y tu hwnt i gwmpas unrhyw Awdurdod Tân ac Achub unigol i'w ddatrys ar ei ben ei hun. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a gydag undebau'r diffoddwyr tân i sicrhau cynnydd cydsyniol a chynaliadwy.

Mae'r ddau amcan arall yn ein Fframwaith yn ymwneud ag effeithlonrwydd ac atebolrwydd.  Mae'r rhain yn amlwg yn bwysig, ond nid yw, ac ni all y trefniadau statudol presennol y mae'n rhaid i'r Awdurdodau weithredu oddi tanynt, roi'r math o sicrwydd yr hoffwn ei weld.  Byddai felly'n annheg dod i unrhyw gasgliadau cadarn nawr.

Ddiwedd y llynedd, ymgynghorwyd ar gynigion i wneud diwygiadau yn y maes hwn.  Arweiniodd hynny at nifer o ymatebion a oedd yn cefnogi'r achos am newid cyffredinol, ond ni chafwyd lawer o gonsensws ar y manylion. Cododd yr Awdurdodau Tân ac Achub nifer o bryderon, ac rwyf wedi cynnal trafodaethau pellach gyda'r Cadeiryddion ers diwedd yr ymgynghoriad.  Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i fesurau diwygio mewn egwyddor, ni fydd y ddau gynnig yr oedd gan yr Awdurdodau yr amheuon mwyaf yn eu cylch, yn mynd ymhellach. Golyga hyn na fyddwn yn tynnu aelodau Awdurdodau Tân ac Achub o gabinet cynghorau, nac ychwaith yn gofyn ar i Awdurdodau gytuno ar eu cyllidebau gydag awdurdodau lleol.     

Rwy'n bwriadu ymweld â phob un o'r Awdurdodau Tân ac Achub dros yr haf, a byddaf yn ystyried ymhellach i ba gyfeiriad y bydd y gwaith diwygio yn mynd. Byddaf yn gwneud datganiad arall yn yr hydref.