Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cafodd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer a'r fersiwn ddiwygiedig o God Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) eu gosod gerbron y Senedd ar 11 Mehefin a'u dyroddi ar 24 Gorffennaf.
Heddiw, gwnaed Gorchymyn Cod Ymarfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru a'r Cod Ymarfer Diwygiedig (Swyddogaethau Cyffredinol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2024 a fydd yn dod â'r codau hyn i rym ar 1 Medi.
Bydd cyfarwyddydau i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG yn cael eu dyroddi cyn bo hir drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru, a fydd yn golygu bod rhaid i'r sefydliadau hyn gyflawni eu swyddogaethau yn unol â darpariaethau perthnasol y Fframwaith Cenedlaethol. Golyga hyn fod y Fframwaith Cenedlaethol yr un mor gymwys i gomisiynu gofal a chymorth gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG.
Wrth i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG ddechrau gweithredu'r codau hyn, rydym gam sylweddol yn nes at wireddu nodau'r rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth i leihau cymhlethdod, hwyluso cysondeb cenedlaethol mewn arferion comisiynu ac ailgydbwyso comisiynu i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau.
Dyma benllanw dros dair blynedd o waith a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon, yn enwedig y cyn-Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i gyflawni nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yng Nghymru. Ar ôl sefydlu'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth ym mis Ebrill, mae dyfodiad y codau hyn i rym yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i wella'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.