Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi a lansio adnoddau ategol y Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol. 

Cafodd y Fframwaith hwn ei gyhoeddi gyntaf ar 19 Gorffennaf 2021. Ei nod yw lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, ac iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o bob oed.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod bod arferion cyfyngol yn cael effaith negyddol ar lesiant y bobl hynny y defnyddir yr arferion mewn perthynas â nhw, yn ogystal â'r rheini sy'n eu gweithredu ac sy'n dystion iddynt. Mae'r Fframwaith yn glir na ddylid byth defnyddio arferion cyfyngol ond fel y cam olaf un ar gyfer atal niwed i unigolyn neu i eraill. Bwriad y canllawiau yw helpu i sicrhau bod y rheini sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion ar draws y lleoliadau a'r gwasanaethau perthnasol yn rhannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau, sy'n seiliedig ar ddull gweithredu sy'n hyrwyddo hawliau dynol. 

Yn 2022, daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r ymgyrch Hope Instead of Handcuffs. Roedd yr ymgyrch yn galw am newid yng nghyfraith y DU, er mwyn amddiffyn plant sy'n derbyn gofal pan fyddant yn cael eu cludo rhwng lleoliadau gofal cymdeithasol drwy sicrhau nad ydynt yn cael eu cludo gan ddefnyddio gefynnau llaw neu gerbydau cawell. Mewn ymateb, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad brys o'r trefniadau cludo diogel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. O ganlyniad, cafodd y Fframwaith ei ddiwygio i gynnwys mesurau diogelu ychwanegol wrth ddarparu, defnyddio a chaffael trafnidiaeth ddiogel pan fydd plentyn yn cael ei gludo. 

Er mwyn cefnogi a hyrwyddo cyhoeddi'r Fframwaith, comisiynodd Llywodraeth Cymru adnoddau ategol i'w defnyddio wrth ei weithredu. Cafodd gwaith animeiddio (a gafodd ei gynhyrchu a'i ysgrifennu gan bobl â phrofiad bywyd) ei ddatblygu, a chynhyrchwyd dogfen esboniadol a phoster mewn partneriaeth â Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain (BILD) i adlewyrchu profiadau bywyd unigolion. Mae'r adnoddau ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol [HTML] | LLYW.CYMRU 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau, yn ogystal â'r rheini sy'n defnyddio gwasanaethau, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r disgwyliadau a nodir yn y Fframwaith ac i sicrhau a chynnal newidiadau go iawn mewn polisïau ac arferion. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.