Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i Aelodau fy mod yn bresennol yn y Fforwm Gweinidogol dros Fasnach ar 5 Gorffennaf 2022.

Yn bresennol yn y cyfarfod roedd;

- Y Gwir Anrh Penny Mordaunt AS, Gweinidog Gwladol Polisi Masnach

- Ivan McKee, Gweinidog Busnes, Masnach, Twristiaeth a Menter yr Alban

- Gordon Lyons, Gweinidog Gweithredol Gogledd Iwerddon dros yr Economi

Y Fforwm Gweinidogol dros Fasnach yw'r prif fforwm i drafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Yn y fforwm, cytunais ar y cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y grŵp gan dynnu sylw at ein cefnogaeth eang i drafodaethau cytundeb masnach rydd Llywodraethau'r DU.  Codais hefyd bwysigrwydd cysylltu'n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod arbenigedd a buddiannau yn cael eu cynrychioli mewn cytundebau masnach a hefyd mewn cytundebau eraill sy'n effeithio ar fasnach, fel y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gyrhaeddwyd gyda gwladwriaethau unigol yr Unol Daleithiau.

Wedi cytuno ar y cylch gorchwyl diwygiedig, bydd y Fforwm Gweinidogol dros Fasnach nawr yn trosglwyddo i'r Grŵp Rhyng-weinidogol (Masnach) dros Fasnach ond yn parhau i wasanaethu'r un swyddogaeth. Mi fydd hysbysiad ar y cyd yn cael ei gyhoeddi ar dudalen Llywodraeth y DU ar y we.

Bydd y Grŵp Rhyng-weinidogol (Masnach) yn cwrdd eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.