Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol, gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi mynd i’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach ar 26 Ionawr 2022.

Roedd y canlynol yn bresennol yn y cyfarfod;

  • Y Gwir Anrhydeddus Penny Mordaunt AS, Y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach
  • Ivan McKee, Gweinidog yr Alban dros Fusnes, Masnach, Twristiaeth a Menter
  • Gordon Lyons, Gweinidog Gweithredol Gogledd Iwerddon dros yr Economi

YFforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach yw’r prif fforwm i drafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban.

Yn y fforwm, tynnais sylw at y ffaith ein bod yn cefnogi’r  negodiadau a gynhelir ar gytundeb masnach rydd Llywodraeth y DU, ond nodais bwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ac yn ystyrlon â’r Llywodraethau Datganoledig ar faterion sy’n ymwneud â masnach.   

Bydd y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach yn cwrdd eto yn hwyrach yn y flwyddyn.