Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn ysgrifennu i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gynnydd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol (y Fforwm).

Fel yr esboniais yn fy llythyr dyddiedig 4 Hydref, sefydlir y Fforwm i ddarparu cyngor clinigol i Fyrddau Iechyd Lleol, drwy eu Prif Weithredwyr, ar eu cynigion ar gyfer newid gwasanaethau.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol cyntaf y Fforwm ddydd Mawrth 22 Tachwedd yng Nghaerdydd gyda chyfarfodydd misol dilynol hyd at haf 2012.  Trefnwyd y cyfarfodydd fel eu bod yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru a chynhelir y ddau gyfarfod nesaf yn Hywel Dda a Betsi Cadwaladr, ym mis Rhagfyr a mis Ionawr yn y drefn honno.

Mae Prif Weithredwyr GIG Cymru wedi gwahodd yr Athro Mike Harmer i gyd-Gadeirio'r Fforwm ac mae ef yn trafod â Chyfarwyddwyr Meddygol Cenedlaethol Lloegr a'r Alban i nodi cyd-Gadeirydd addas a all ddod â phrofiad o ail-gyflunio gwasanaethau ar raddfa fawr i'r rôl.  Fel y gwŷr llawer ohonoch, yr Athro Harmer yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Bydd y canlynol yn darparu cynrychiolwyr clinigol i'r Fforwm:

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Grwpiau Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Pwyllgor Meddygol Cymru
  • iechyd plant
  • iechyd merched
  • iechyd meddwl
  • meddygaeth
  • llawdriniaeth
  • anesthesia / gofal critigol
  • practis cyffredinol
  • Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
  • Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru
  • Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
  • Neddyg teulu (a enwebir gan Gymdeithas Feddygol Prydain)
  • Nyrs (a enwebir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol)
  • Bydwraig (a enwebir gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd)
  • Deoniaeth yr Ôl-raddedigion
  • Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
  • Cyfarwyddwr Cenedlaethol Law yn Llaw at Iechyd
  • Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru
  • Cadeirydd Pwyllgor Fferyllol Cymru

Mae Cyfarwyddwr Cenedlaethol Law yn Llaw at Iechyd hefyd yn trafod â'r Sefydliad Iechyd Gwledig ynglŷn â'r rôl y gall ei chwarae o ran llywio gwaith y Fforwm.  Lleolir y Sefydliad yn y Drenewydd ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth ym maes hyrwyddo iechyd a lles mewn lleoliadau gwledig.

Ni fydd gan y Fforwm bwerau gwneud penderfyniadau a chaiff ei gylch gwaith llawn ei gytuno yn y cyfarfod ar 22 Tachwedd.  Fodd bynnag, deallaf y bydd Prif Weithredwyr yn disgwyl i'r Fforwm ganolbwyntio ar y cwestiynau cyffredinol canlynol:

  • A yw gwasanaethau presennol yn cyflawni'r canlyniadau rydym yn anelu atynt?
  • Sut y dylid trefnu gwasanaethau clinigol a mathau eraill o gymorth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau yn yr hirdymor i Gymru gyfan?
  • A yw'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau yn canolbwyntio ar gleifion?
  • Sut y gallwn sicrhau y gellir cyflawni cynlluniau gwasanaethau? 
  • Sut y dylid cysoni gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y boblogaeth gyfan?

Disgwyliaf i bob un o'n Byrddau Iechyd ymgysylltu'n llawn â'u cymunedau a'u rhanddeiliad lleol cyn i'w cynigion terfynol gael eu cyhoeddi.  Rôl y Fforwm fydd rhoi sicrwydd bod unrhyw drefniadau newydd yn ddiogel o safbwynt clinigol a'u bod yn diwallu anghenion pobl leol.  Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae gan ein Cynghorau Iechyd Cymunedol rôl allweddol i'w chware i sicrhau'r drafodaeth ehangaf posibl â chymunedau lleol o fewn y prosesau agored a chydweithredol a bennir gan Fyrddau Iechyd Lleol.

Yn fy Rhagair i Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 1af Tachwedd, nodais fod arfer clinigol yn newid a bod angen sicrhau gwasanaethau cynaliadwy ar frys.  Mae maint yr her yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom, gwleidyddion, y GIG a sefydliadau partner, cymunedau a dinasyddion, fwrw ati ar y cyd a sicrhau, gyda'n gilydd, system iechyd newydd gwell i bob claf yng Nghymru.

Aelodau'r Fforwm a gadarnhawyd hyd yn hyn yw;

  • Yr Athro Mike Harmer (cyd-Gadeirydd) Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
  • Andrew Carruthers Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Law yn Llaw at Iechyd
  • Dr Keith Griffiths  Cyfarwyddwr Therapïau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Dr Helen Matthews  Seiciatrydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Yr Athro Gallen Deon Ôl-raddedig
  • Nigel Davies Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Obstetreg a Gynaecoleg)
  • Dr Paul Hughes Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Dr Mike Tidely Cadeirydd, Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru
  • Mr Roger Morgan Cyfarwyddwr Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Dr Keith Griffiths Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
  • Sarah Plummer Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Anesthesia/Gofal Critigol)
  • Iolo Doull Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Pediatreg)
  • Robert Sainsbury Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Sandra Morgan Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru
  • Neil Statham  Meddyg Teulu (a enwebwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain)
  • Peter Bradley Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Iechyd Cyhoeddus
  • Helen Rogers Coleg Brenhinol y Bydwragedd
  • Richard Moore Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Meddygaeth)
  • Jo Williams Rheolwr Prosiect
  • Jill Paterson Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
  • Jane Herve Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
  • Karl Bishop Cadeirydd, Pwyllgor Deintyddol Cymru
  • Alan Axford Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig