Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caffael yw un o'r dulliau pwysicaf sydd gennym i gefnogi'r Gymru fwy cyfartal, mwy cynaliadwy, a mwy ffyniannus yr ydym i gyd am ei gweld dros y blynyddoedd nesaf. Gall ein helpu i adeiladu'r seilwaith modern sydd ei angen arnom i gyrraedd at sero-net. Gall gefnogi adferiad gwyrdd a chyfrannu at ein huchelgais cyffredin ar gyfer Gwaith Teg yng Nghymru.

Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfleoedd hynny ac i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ddatblygu dull modern a chynaliadwy o gaffael.

Mae caffael yn faes cymhleth ac mae’n faes sy'n newid yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, er mwyn deall sut mae angen diwygio gan ystyried pa newidiadau sydd angen eu gwneud ar lefel y DU. Rydym hefyd wedi ystyried yr hyn sydd angen digwydd gan ddefnyddio deddfwriaeth a ddatblygir yma yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed - dim ond yma yng Nghymru y dylid gwneud penderfyniadau ar y canlyniadau polisi yr ydym am eu sicrhau o gaffael. Mae gennym safbwyntiau gwahanol iawn i Lywodraeth y DU o ran y gwerth a'r rôl y gall ac y dylai pethau fel gwaith teg ei chwarae ym maes caffael. Dyna pam rydym wedi bod yn paratoi Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) uchelgeisiol a fydd yn helpu i ymgorffori'r ymrwymiadau hynny yn y gyfraith.

Serch hynny, mae cyfle i ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU wrth inni ymadael â’r UE i ddiwygio'r prosesau sylfaenol sy'n sail i gaffael. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei chynigion yn ei Phapur Gwyrdd Transforming Public Procurement” ac mae wedi cyflwyno'r opsiwn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth San Steffan i ddiwygio'r prosesau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried y ffordd ymlaen. Wrth wneud hynny, rydym wedi ceisio cael mesurau diogelu clir iawn na fyddem, wrth ymuno â deddfwriaeth y DU, yn llyffetheirio ein gallu i gyflawni'r canlyniadau polisi pwysig a geisiwn drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Dyna pam yr ydym wedi ceisio cael gwarantau ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU ar hyd y trywydd hwn, rhai yr wyf yn falch o ddweud eu bod bellach wedi'u cael gan Swyddfa’r Cabinet yn Llywodraeth y DU.

Ar ôl ystyried y risgiau, y manteision, yr adnoddau a'r sicrwydd a roddwyd, rwyf felly wedi penderfynu y dylid gwneud darpariaeth ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru ym Mil Llywodraeth y DU. 

Er mwyn helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygio yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi Gweinidogion Cymru ar gyfer caffael cyhoeddus yn llawn, bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â thîm Bil Diwygio Caffael y DU i ddatblygu'r Bil, gan wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau rydym wedi'u sicrhau yn cael eu hanrhydeddu.    

Yn y cyfamser, bydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn parhau i ddarparu'r fframwaith statudol ar gyfer caffael yng Nghymru.  Bydd y ddeddfwriaeth hon yn parhau i gael effaith hyd nes y daw unrhyw ddeddfwriaeth newydd i fodolaeth, gan roi dilyniant a sicrwydd i brynwyr a chyflenwyr.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.