Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae ein dogfen strategol 'Cymwys am Oes' yn amlinellu agenda bolisi uchelgeisiol i sicrhau newid sylweddol yng nghanlyniadau dysgwyr ar draws Cymru. Ar ddiwedd mis Chwefror, cynigiodd yr Athro Graham Donaldson gyfres o newidiadau cyffrous a radical i Gwricwlwm Cymru er mwyn paratoi ein dysgwyr yn fwy effeithiol ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.
Y mis hwn, mae'r Athro John Furlong wedi awgrymu ffyrdd o gryfhau addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru. Bydd hyn yn denu'r ymgeiswyr gorau i ddod yn athrawon ac yn sicrhau eu bod yn barod i ddarparu'r addysg orau i'n dysgwyr. Mae hyn yn hanfodol i gyflawni ein nod o godi statws y proffesiwn.
Bydd hefyd angen ymrwymiad llawn gweithlu medrus a phroffesiynol i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Heddiw, yn dilyn fy natganiad ym mis Mehefin 2014, rwyf am roi rhagor o fanylion am sut bydd y 'Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg' yn helpu ac yn galluogi ein hymarferwyr presennol i gynllunio, datblygu ac adnewyddu eu harferion er mwyn ymateb i’r cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.
Mae'r cysyniad sy’n sail i’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn syml iawn. Gwyddom fod addysg ac arweinyddiaeth ragorol yn cael effaith bwerus ar wella canlyniadau dysgwyr. Rydym hefyd yn cydnabod bod addysgu yn rôl broffesiynol gymhleth ac, fel y dywedodd Dylan William, “Teaching is such a complex craft that one lifetime is not enough to master it”. Ond yn ôl tystiolaeth, gellir gwella arferion addysgu ac arwain yn sylweddol os yw ymarferwyr yn cael cyfle, yn unigol ac ar y cyd, i gwestiynu eu harferion a'u datblygu drwy weithgareddau dysgu proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Drwy'r Fargen newydd, hoffwn gynnig i athrawon a staff cymorth yng Nghymru yr hawl i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol strwythuredig o'r radd flaenaf er mwyn datblygu eu harferion. Bydd y cyfleoedd hyn yn eu helpu i ddatblygu eu harferion drwy ddulliau y maent yn rhoi’r gwerth mwyaf arnynt ac y profwyd eu bod yn effeithiol iawn wrth wella canlyniadau dysgwyr.
Yn gyfnewid am hyn, byddaf yn gofyn i bob ymarferydd fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu eu harferion proffesiynol eu hunain, rhannu'r arferion hyn a chyfrannu at ddatblygu eraill.
Bydd y Fargen Newydd hefyd yn sicrhau bod y system addysg ehangach yn canolbwyntio ar hwyluso cyfleoedd ar gyfer ysgolion ac ymarferwyr. Byddwn yn disgrifio'n glir sut y bydd y newidiadau sydd ar y gweill yn effeithio ar y gweithlu ac yn newid y disgwyliadau ar gyfer addysgeg, arweinyddiaeth a datblygu arferion. Byddwn hefyd yn pennu amserlen ar gyfer cyflwyno’r newidiadau er mwyn i ysgolion ac ymarferwyr allu nodi blaenoriaethau ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth a hefyd targedu adnoddau a chynllunio i weithredu'n effeithiol.
Yn ogystal, byddwn yn pennu fframwaith clir a chytûn ar gyfer cynllunio datblygiad ysgol sy’n cysylltu â’r broses o nodi blaenoriaethau dysgu unigol a chyffredinol drwy'r broses reoli perfformiad ac yn erbyn safonau proffesiynol newydd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ymarferwyr yn gallu nodi eu hanghenion dysgu proffesiynol a manteisio ar eu hawl i ddysgu proffesiynol ar lefel yr ysgol gyfan ac yn unigol. Golyga hyn y bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel er mwyn gallu cyflawni eu hamcanion addysgu mewn amgylchedd sy'n newid.
Byddwn yn pennu llwybrau datblygu gydol gyrfa fel bod ymarferwyr yn gallu cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol. Yn ogystal, byddwn yn gweithio gyda'r Consortia, ein hysgolion arweiniol a darparwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod rhaglenni, cyfleoedd datblygu a chefnogaeth o ansawdd uchel ar gael i ysgolion ac ymarferwyr er mwyn i’r broses o ddatblygu sgiliau addysgeg ac arweinyddiaeth allu parhau gydol gyrfa. Byddwn hefyd yn sicrhau bod hyn yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol ysgol i ysgol a gan gymheiriaid, sy’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ymarferwyr ac yn effeithiol iawn.
Y graddau meistr newydd, sef y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol Barhaus a'r Radd Meistr mewn Arweinyddiaeth Addysgol, fydd sylfaen ein cyfleoedd dysgu proffesiynol. Cânt eu dylunio i gefnogi pob ymarferydd, waeth pa lwybr gyrfa y mae’n dewis ei ddilyn. Byddant yn seiliedig ar egwyddorion dysgu proffesiynol effeithiol ac yn fodd i ni ddefnyddio’r ymchwil academaidd ddiweddaraf i’r arferion mwyaf effeithiol yn ein dosbarthiadau yng Nghymru.
Mae datblygu sgiliau arwain yn ganolog i'r Fargen Newydd. Felly, bydd yn hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r Consortia ac ymarferwyr i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o arwain - o ddarpar arweinwyr i benaethiaid, penaethiaid gweithredol ac arweinwyr y system addysg. Mae'n hollbwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth, nid yn unig o ran creu'r amodau yn ein hysgolion i hwyluso a chefnogi dysgu proffesiynol, ond ar gyfer arwain y system addysg yn llwyddiannus drwy'r cyfnod o ddatblygiad a newid sydd ar ddod.
I gofnodi sgiliau athrawon gydol eu gyrfa, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi gofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg arwain y gwaith o ddatblygu Pasbort Dysgu Proffesiynol o fis Ebrill ymlaen. Bydd y pasbort yn sail i lwybrau gyrfa ymarferwyr ac yn eu helpu i nodi'r cyfleoedd dysgu mwyaf priodol, eu cofnodi a’u pwyso a mesur er mwyn iddynt allu parhau i ddatblygu a gwella eu harferion ym mhob cam o'u gyrfa. Dyma'r tro cyntaf yng Nghymru y bydd pob ymarferydd yn gallu cadw cofnod o'i ddysgu proffesiynol mewn un man, a bydd yn fodd i ddatblygu portffolio manwl ar-lein o'r holl ddysgu proffesiynol.
Byddwn yn cydweithio'n agos ag ymarferwyr, a hefyd gydag undebau a chyflogwyr drwy Bartneriaeth Gymdeithasol, i sicrhau bod y Fargen Newydd yn cael ei datblygu, ei gweithredu, ei hasesu o ran ansawdd a'i gwerthuso 'gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr'.
Heddiw rydym wedi rhoi ystod o astudiaethau achos fideo a Phecynnau Dysgu ar wefan Dysgu Cymru sy'n dangos egwyddorion y Fargen Newydd ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol o sut y mae ysgolion yng Nghymru eisoes wedi gwreiddio'r ffyrdd hyn o weithio yn eu harferion. Rwyf am i ni adeiladu ar hyn fel bod pob ymarferydd yng Nghymru yn gallu datblygu ei arferion er mwyn bod yn barod ac yn hyderus i gyflawni'r newidiadau sydd o'n blaenau.