Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Bernir ei bod yn debygol y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi’r opsiwn i Aelod-wladwriaethau ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen y Cais Sengl (SAF) o 15 Mai hyd at 15 Mehefin 2015. Mae ffermwyr yn defnyddio’r SAF i hawlio eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a’u taliadau datblygu gwledig sy’n seiliedig ar dir.
Rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd llif arian i ffermwyr, felly nid wyf yn bwriadu ymestyn y dyddiad terfyn oherwydd y bydd hyn yn oedi cychwyn taliadau rhannol i bawb sy’n hawlio. O ganlyniad, rwyf wedi benderfynu mai dyddiad terfyn y SAF yng Nghymru fydd 15 Mai 2015 o hyd.
Yng Nghymru, mae’r broses geisiadau Taliadau Gwledig Ar-lein wedi bod yn gweithio’n dda ers 27 Chwefror. Rydym wedi cael adborth da iawn gan y diwydiant ac mae undebau’r ffermwyr wedi bod yn annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Roedd dros 1,400 o ffurflenni wedi’u cyflwyno erbyn 31 Mawrth, mwy na dwywaith na’r nifer a gyflwynwyd yr un pryd y llynedd.
Pe bai oedi o ran derbyn y SAF, byddai sgil-effaith anochel ar daliadau rhannol o dan y BPS ac ar daliadau’r cynlluniau datblygu gwledig seiliedig ar dir presennol. O ran cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig 2007-2013 sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015, bydd yn rhaid rhoi unrhyw gyllid nad yw’n cael ei defnyddio erbyn y dyddiad hwn yn ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd, a bydd Cymru’n ei golli. Yna byddai’n rhaid tynnu unrhyw daliadau dyledus o’r Rhaglen Datblygu Gwledig newydd 2014-2020, a fyddai felly’n lleihau maint y gronfa ar gyfer prosiectau newydd.
Bydd yn cymryd mwy o amser i lenwi SAF eleni na mewn blynyddoedd blaenorol o ystyried mai dyma flwyddyn gyntaf y cynllun newydd. Rwyf felly’n annog pob ffermwr i lenwi ac anfon eu SAF cyn gynted â phosibl, ac yn sicr cyn 15 Mai eleni i osgoi cosbau hwyr neu fod heb ddigon o amser i wneud cais am hawliadau yn y flwyddyn hollbwysig hon.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.