Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 16 Gorffennaf gwnaeth y DU lofnodi’n swyddogol y cytundeb i ddod yn aelod o Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Llofnodwyd y cytundeb yn ystod cyfarfod Comisiwn ar lefel Gweinidogol y CPTPP yn Auckland, Seland Newydd.
Yn ôl y data diweddaraf, gwerth y masnachu nwyddau rhwng Cymru ac aelodau’r CPTPP oedd £2.7bn yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mawrth 2023 – gyda mewnforion yn cyfrif am £1.4bn ac allforion am £1.3bn. Aeth tua 6.1% o allforion nwyddau Cymru i aelodau'r CPTPP yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r cytundeb yn nodi newid pwysig ym mholisi masnachu'r DU tuag at ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel, gan ddangos pwysigrwydd cynyddol y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod y rhan fwyaf (tua 57.2%, £12bn) o allforion nwyddau Cymru yn parhau i fynd i farchnad yr UE. Er ein bod yn deall, efallai, pam mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysigrwydd o'r fath i'r cytundeb masnach hwn, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn llawn â'n cytundeb â'r UE, a rhaid iddo beidio â niweidio'r berthynas fasnachu rhwng y DU a'r UE neu osod cynsail ar gyfer cytundebau â phartneriaid masnachu eraill yn y dyfodol.
Rydym bob amser wedi cefnogi agenda masnach rydd Llywodraeth y DU yn gyffredinol, a manteision posibl y gallai Cytundebau Masnach Rydd eu darparu ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae’r CPTPP yn wahanol i'r trafodaethau dwyochrog y mae'r DU wedi'u cynnal hyd yn hyn. Mae'r CPTPP bresennol yn gytundeb amlochrog ac, er bod rhai cyfleoedd ar gyfer ceisio eithriadau i'r cytundeb presennol, roedd angen i Lywodraeth y DU ddangos ei bod yn gallu cydymffurfio â thelerau'r CPTPP, yn hytrach na negodi darpariaethau newydd. Mae'n werth nodi hefyd fod Llywodraeth y DU eisoes wedi llofnodi, neu yn negodi, cytundebau masnach dwyochrog gyda llawer o aelodau'r CPTPP, fel Japan, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Mecsico.
O’r dechrau rydym wedi bod â phryderon ynghylch rhai elfennau o'r cytundeb presennol, pryderon sydd wedi parhau, a hynny o ran lefel yr uchelgais o fewn rhai penodau’r CPTPP. Gan fod y cytundeb bellach wedi’i lofnodi a bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hasesiad effaith, bydd fy swyddogion yn mynd ati i gwblhau adroddiad llawn yn amlinellu ein safbwyntiau ynghylch y ffaith bod y DU wedi dod yn aelod o’r CPTPP. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi maes o law.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau i mi gyflwyno datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd mi fuaswn i’n barod i wneud hynny.