Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mewn amryw Ddatganiadau gan fy rhagflaenydd, rhoddwyd gwybod i’r Aelodau am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd wrth arolygu gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc Ynys Môn. Dywedwyd gennym y câi’r Aelodau wybod am unrhyw gynnydd mewn perthynas â’r Bwrdd Adfer a sefydlwyd gennym i gefnogi’r awdurdod. Rydym felly wedi paratoi diweddariadau rheolaidd adeg newid aelodaeth y bwrdd.
Rwyf heddiw yn cyhoeddi newidiadau pellach i aelodaeth y bwrdd adfer.
Mae’n dda gennyf fedru rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad bod yr awdurdod wedi gweithio’n dda gyda’r Bwrdd Adfer a’i fod yn gwneud cynnydd da wrth fynd i’r afael â’r argymhellion a gyflwynwyd iddynt yn ystod arolygiad Estyn yn 2012.
Mae’r Bwrdd Adfer, a gadeiriwyd gan Mel Ainscow, wedi cynghori, cynorthwyo a herio’r awdurdod wrth iddo ddatblygu a rhoi ar waith y cynllun gweithredu a luniwyd yn sgil yr arolygiad. Mae nifer o’r gweithgareddau oedd yn rhan o’r cynllun hwnnw wedi’u rhoi ar waith bellach ac mae canlyniad y gwaith hwn yn dechrau gwreiddio ac arwain at gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae fy niolch i holl aelodau’r bwrdd adfer presennol sydd wedi helpu i arwain yr awdurdod tuag at y cam hwn yn ddidwyll. Mae Ynys Môn mewn gwell cyflwr o ganlyniad i’w rhan yn y broses adfer.
Rhaid cydnabod hefyd yr awdurdod ei hun am ei ymroddiad i fynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd gan Estyn. Mae’r awdurdod wedi cydweithio gyda fy mwrdd ac wedi cydnabod gwerth y bwrdd i’r broses adfer.
Rwyf wedi ystyried y cynnydd a wnaed gan yr awdurdod a hefyd y problemau sy’n ei wynebu o hyd. Mae gan yr awdurdod broblemau i’w goresgyn o hyd ond mae’r rhain yn fwy penodol o lawer ac yn ymwneud â gwahanol elfennau o’r portffolio addysg. Er mwyn cydnabod hyn felly, fy mwriad yw ad-drefnu’r Bwrdd er mwyn cynnig cyngor a her benodol i aelodau a swyddogion Ynys Môn.
Wrth gamu ymlaen felly bydd y bwrdd yn cynnwys tri aelod ynghyd ag un arbenigwr wedi’i secondio o fy adran i. Mae gan yr arbenigwr dan sylw brofiad o weithio gyda bwrdd blaenorol Ynys Môn a bydd yn gweithio fel ymgynghorydd a chadeirydd dros dro tra bydd y bwrdd yn cael ei sefydlu. Y tri aelod llawn o’r bwrdd fydd Eileen Barnes Vachell sef cyn Ymgynghorydd Her Llundain, Rob Sully, Adran Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, a Viv Thomas, sy’n aelod o’r bwrdd presennol.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’m cyd-Aelodau yn sgil unrhyw gynnydd a wneir.