Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Fel y gŵyr Aelodau’r Cynulliad, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 18 Tachwedd 2010 ynghylch dyfodol y Rhwydwaith Technium. Yn dilyn Datganiad Llafar ar 23 Tachwedd gwnes ymrwymo i gyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

Mae’r rhwydwaith wedi bod yn destun sawl adolygiad, archwiliad a gwaith craffu annibynnol gan Bwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yr Economi a Thrafnidiaeth. Arweiniodd y rhain at argymhellion ynghylch gwneud gwelliannau mewn meysydd fel llywodraethu, prosesau a gwybodaeth/data rheoli.

Ym mis Gorffennaf 2010 lansiwyd  Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd. Gwnaed ymrwymiad yn y polisi hwn i gynyddu arloesedd ac ymchwil, a datblygiad (Ymchwil a Datblygu) yng Nghymru drwy ddarparu cyfleusterau arbenigol, gan gynnwys canolfannau deori.  Nododd y polisi yn ogystal y byddai sylw yn cael ei roi i gapasiti deori busnes sy'n cael ei danddefnyddio. Gan mai'r rhwydwaith Technium sy'n bennaf gyfrifol am gyflawni rhaglen deor busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru, ymrwymwyd i gynnal adolygiad o'r holl gyfleusterau unigol. Yn dilyn hynny cyhoeddais y byddai pedwar o'r Techniums yn cael eu cadw ond ni fyddai'r chwech arall bellach yn rhan o'r rhwydwaith.

Ers y dyddiad hwnnw rydym wedi rheoli'r broses o waredu'r chwe adeilad o'r rhwydwaith, ac rydym wedi sicrhau bod trefniadau addas i'w diben, trefniadau llywodraethu a threfniadau ariannol yn eu lle fel y gall y rhwydwaith Technium ar ei newydd wedd symud ymlaen.  Rydym yn ceisio cynorthwyo'r tenantiaid na fydd bellach yn rhan o'r rhwydwaith i feithrin cysylltiadau cymorth busnes newydd ynghyd â chysylltiadau perthnasol ar gyfer cyngor, cymorth a chysylltiadau yn y dyfodol.

Cyhoeddais ym mis Tachwedd na fyddai'r Techniums yn cau ar unwaith, ac y byddai'r tenantiaid unigol o fewn yr adeiladau yr effeithiwyd arnynt yn derbyn cymorth gydol y broses a byddai unrhyw denantiaid yr oedd yn rhaid iddynt newid eu lleoliad yn derbyn pob cymorth posibl i ddod o hyd i leoliad newydd.  O ran y Techniums y mae gan LlCC fuddiant ynddynt o ran bod yn berchen ar yr adeilad neu ei brydlesu, mae'r holl randdeiliaid allweddol, sefydliadau partner a thenantiaid wedi cael eu cynnwys gydol y broses ac mae trafodaethau wedi'u cynnal â hwy er mwyn sicrhau y gallant adael y rhwydwaith erbyn 31 Mawrth 2011.  Mae LlCC yn berchen ar y Techniums canlynol - Peirianneg Perfformiad, Technolegau Cynaliadwy, Aberystwyth ac mae gan CAST brydles â Sony ar gyfer y Technium Sony@Digital.

Cyngor Sir Penfro sy’n berchen ar Dechnium Sir Benfro a mater i’r perchennog fydd pennu defnydd priodol o'r adeilad ar gyfer y dyfodol.  Rydym wedi cyfarfod â'r Cyngor i drafod y strategaeth ymadael ac rydym wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig o'u dyddiad ymadael sef 18 Gorffennaf 2011. Mae'r dyddiad hwnnw'n adlewyrchu eu cyfnod o rybudd.
Rydym wedi cynnal adolygiad o'r cytundebau a'r prydlesoedd perthnasol sy'n bodoli o fewn y rhwydwaith Technium er mwyn pennu unrhyw faterion posibl a fyddai'n deillio o adael y rhwydwaith.  Ymgymerwyd â'r strategaeth ymadael drwy gydymffurfio ag unrhyw amodau a rhwymedigaethau gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Mae LlCC yn berchen ar nod masnach y Technium.  Mae rhanddeiliaid, sefydliadau a thenantiaid allweddol a pherthnasol wedi'u hysbysu na fydd rhai adeiladau yn rhan o'r rhwydwaith ar ôl 31 Mawrth 2011 ac o'r herwydd ni ddylent bellach ddefnyddio'r enw Technium mewn unrhyw ddogfennau corfforaethol.  Caiff unrhyw arwyddion sy'n dangos logo neu frand yr adeiladau Technium hefyd eu gwaredu erbyn 31 Mawrth 2011.  Mae'r adeiladau wedi'u hailenwi yn ogystal ac mae tenantiaid a sefydliadau perthnasol yn cael eu hysbysu ynghylch hyn.

Gwnes gadarnhau ynghynt y byddai unrhyw denantiaid a fyddai'n colli eu lleoliad ac yr oedd angen lleoliad arall arnynt yn derbyn cymorth gydol y broses hon.  Gallaf gadarnhau bod dau o denantiaid wedi gofyn yn benodol i gael eu hadleoli o fewn safle deori Sony ac maent wedi derbyn cymorth ac arweiniad priodol gydol y broses fel y gallant adleoli i'r lleoliad newydd.

O safbwynt yr atebion mwy hirdymor ynghylch eiddo, mae trafodaethau wrthi'n mynd rhagddynt â gwahanol sefydliadau ynghylch y defnydd o bob un o'r adeiladau yn y dyfodol a'r modd y cânt eu cynnal.  Rydym wedi ceisio mabwysiadu proses gyson a thryloyw ar gyfer gwaredu adeilad sydd o fewn portffolio eiddo LlCC ar hyn o bryd a lle mae mwy nag un sefydliad wedi mynegi diddordeb yn y defnydd ohono yn y dyfodol.  Bydd dadansoddiad o'r opsiynau bellach yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i Weinidogion fel bod modd gwneud penderfyniadau ynghylch pob adeilad unigol.

Gwnes hefyd ymrwymiad na fyddai'r broses o waredu'r Techniums o'r rhwydwaith yn effeithio ar barhad busnes ac y byddai cyn lleied â phosibl o aflonyddwch ar fasnach a busnes y tenantiaid. Un o'r prif bryderon a godwyd gan y tenantiaid oedd parhad y ddarpariaeth o wasanaeth TGCh a Theleffoni mewn rhai o'r adeiladau, gan fod tenantiaid yn defnyddio gwasanaeth TGCh a Theleffoni y Technium ar hyn o bryd fel rhan o ddarpariaeth y Technium.  Gallaf gadarnhau y byddwn yn sicrhau y bydd gwasanaeth TGCh a Theleffoni cyfatebol yn cael ei ddarparu ar gyfer yr adeiladau perthnasol ac y bydd y ddarpariaeth bresennol yn parhau hyd nes y bydd y gwasanaeth newydd yn ei le.  

Rydym hefyd yn pennu ac yn cofnodi unrhyw gostau a/neu arbedion i LlCC sy'n gysylltiedig â gweithredu'r strategaeth ymadael.

Fel rhan o’r broses o fwrw ymlaen â’r Techniums, mae adolygiad wedi’i gynnal, ar gais yr Ysgrifennydd Parhaol, o hynt y gwaith o weithredu argymhellion yr archwiliad mewnol blaenorol o’r rhwydwaith. Fel rhan o’r datganiad llafar a gyflwynais ar 23 Tachwedd y llynedd cyhoeddais yn y Cyfarfod Llawn, yn gwbl ddiffuant ac ar sail y cyngor a dderbyniais ar sawl achlysur, fy mod yn credu bod 52 o blith y 53 argymhelliad wedi’u gweithredu. Deallaf yn awr nad dyma’r sefyllfa. Mae’r gwaith dilynol wedi dangos bod camau wedi’u cymryd ynghylch 49 o’r argymhellion, ac o blith y rhain mae gwaith i’w wneud o hyd ar 30 ohonynt. Roedd gan 6 argymhelliad arall oblygiadau i Gymru gyfan ac roedd camau wedi’u cymryd ynghylch bob un o’r rhain. Eto i gyd, mae gwaith i’w wneud o hyd ar 4 o’r rhain. Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod y camau gweithredu eraill, os ydynt yn parhau i fod yn berthnasol, yn cael eu cyflawni wedi’i drosglwyddo i Grŵp Pontio’r Technium. Mae’r Ysgrifenydd Parhaol yn bwriadu sefydlu sut y digwyddodd hyn a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Ein nod allweddol gydol yr amser yw hyrwyddo twf economaidd.  Bydd y Techniums yr ydym yn eu cadw yn rhan o'r dull gweithredu hwn.  Byddant yn parhau i ddarparu cymorth deori ar gyfer cwmnïau newydd sy'n tyfu ar draws Cymru.  Wrth symud ymlaen byddwn yn gweithredu dull newydd o reoli'r rhwydwaith fel ei fod yn agwedd amlwg ar y strwythur Ymchwil a Datblygu yng Nghymru ac yn sicrhau dull cydgysylltiedig o gyflawni cysondeb ar draws y rhwydwaith. 

Caiff y rhwydwaith Technium ei ariannu'n rhannol drwy Brosiect Cydgyfeirio Ewropeaidd ac rydym wrthi'n cydweithio â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac â rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner er mwyn cynnal ailwerthusiad sylweddol o'r cynllun busnes presennol.  Ein bwriad ar hyn o bryd yw sicrhau bod y cynllun busnes diwygiedig wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo erbyn 1 Gorffennaf 2011.  Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun busnes yn cyd-fynd â Rhaglen Adnewyddu'r Economi a bod yr holl gysylltiadau mewnol allweddol ag Arloesi, Ymchwil a Datblygiad, Cymorth i Fusnesau, Cyllid a Sgiliau yn arwain at fanteision. 

Mae fframwaith llywodraethu mwy cadarn ac effeithiol ar gyfer y rhwydwaith wrthi'n cael ei ddatblygu. Bydd y fframwaith hwn yn cynnwys strwythur rheoli newydd â rolau ac atebolrwydd clir, ynghyd â'r gallu i ddatblygu perthynas briodol â'r Techniums hynny a gaiff eu rheoli y tu allan i LlCC.  Bydd gwell pwyslais ar fonitro a gwerthuso hefyd yn sicrhau bod holl allbynnau a chanlyniadau cymeradwy y Prosiect yn cael eu cyflawni.  Mae model gweithredu newydd ynghyd â chyfres o brosesau busnes cyson a thryloyw wrthi'n cael eu datblygu a gallant gael eu newid yn dilyn dilysu allanol a chraffu pellach gan wasanaethau archwilio mewnol. 

UK Busness Incubation - sef y corff proffesiynol arweiniol ar gyfer datblygu a chefnogi amgylcheddau deori busnes sy'n cynorthwyo canolfannau twf uchel a thechnoleg - fydd yn dilysu ac yn cadarnhau'r model gweithredu a'r prosesau busnes.  Bydd rôl allweddol i Wasanaethau Archwilio Mewnol LlCC o ran datblygu'r model gweithredu newydd a bydd yn sicrhau ansawdd ac yn profi'r fframwaith llywodraethu a'r prosesau newydd.  Caiff y gwaith o graffu'n allanol ar raglen y Technium wrth iddi symud ymlaen ei bennu hefyd fel rhan o'r cynllun busnes a chaiff y defnydd o Baneli Sector ei archwilio.

Byddaf yn sicrhau bod archwiliadau rheolaidd yn cael eu trefnu a'u cynnal gan LlCC a WEFO er mwyn sicrhau bod y cynllun busnes diwygiedig yn cael ei weithredu'n llwyr ac er mwyn monitro'r cynnydd yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gweddill oes y Prosiect.