Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae dechrau cynnal profion darllen a rhifedd ymhlith disgyblion blynyddoedd 2 i 9 yn ysgolion Cymru yn garreg filltir bwysig o ran gweithredu cynllun Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Cyn i’r profion hyn gael eu cynnal ym mis Mai – profion sy’n ategu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd – gwnaed gwaith treialu helaeth am fisoedd lawer. Cydweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru â datblygwyr y profion, NFER ac Acumina, i bennu cyd-destun cyfres o brofion, eu comisiynu a’u datblygu – wyth prawf darllen ac un ar bymtheg prawf rhifedd ar gyfer blynyddoedd 2 i 9. Anfonwyd bron i 700,000 o bapurau prawf i dros 1,650 o ysgolion, gan alluogi 300,000 o ddysgwyr i sefyll y profion yn ystod y ffenest brofi ddwy wythnos ym mis Mai. Chwaraeodd Awdurdodau Lleol, gan weithio drwy’r consortia rhanbarthol, rôl bwysig yn cefnogi eu hysgolion ac yn monitro’r trefniadau gweinyddu i sicrhau cysondeb a chwarae teg. Mae lle i bawb deimlo’n falch o’u cyfraniad i’r profion hyn, a fydd yn gam pwysig tuag at wella sgiliau llythrennedd a rhifedd ein dysgwyr.
Dylai dysgwyr unigol a’u rhieni gael gwybod yr wythnos hon sut maent wedi gwneud o gymharu â dysgwyr eraill yng Nghymru. Mae’r profion a’r data a ddarparant yn hollbwysig i godi safonau ac er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn gwneud cynnydd. Bydd ysgolion yn gallu defnyddio’r data i nodi cryfderau dysgwyr a meysydd y mae angen iddynt eu datblygu, gan alluogi ysgolion i ymyrryd yn gynharach os ydynt yn syrthio tu ôl, gan ymestyn y rheini sy’n fwy abl ar yr un pryd. Mae’r profion hefyd yn helpu ysgolion i ddadansoddi eu haddysgu a’u dysgu a’i feincnodi yng nghyd-destun y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Gyda help Adnodd Cymorth Diagnostig peilot ar gyfer y Prawf Rhifedd Cenedlaethol, byddant yn gallu nodi’r elfennau hynny o’r Fframwaith lle mae dysgwyr yn gwneud yn dda ar y cyfan, a lle maent yn cael trafferth. Gall yr ysgolion ddefnyddio’r wybodaeth hon wedyn wrth gynllunio ac wrth nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Bydd data’r profion yn helpu dysgwyr ac ysgolion, ond hefyd bydd consortia yn gallu dadansoddi’r data i dargedu cymorth i wella ysgolion.
Drwy olrhain cynnydd dysgwr o ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yr holl ffordd drwodd i addysg uwchradd, ein gweledigaeth yw y bydd y profion yn helpu athrawon i gael golwg gliriach ar ei ddatblygiad a’i gynnydd. Llinell sylfaen inni yw canlyniadau eleni, ac wrth gwrs pwynt unrhyw linell sylfaen yw mesur gwelliant wedyn. Rwy’n gobeithio, felly, y bydd dysgwyr, athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol drwy eu consortia, yn rhoi eu sylw i gyd i gyflawni’r cynnydd blynyddol sydd ei angen ar ein dysgwyr er mwyn llwyddo yn eu bywydau fel oedolion.
Mae’r profion yn rhan hollbwysig o’n cynlluniau i wella safonau llythrennedd a rhifedd, ac rydym nawr yn dechrau edrych ar y flwyddyn nesaf pan gaiff yr elfen resymu o’r profion rhifedd ei chyflwyno. Mae’n amlwg, yn sgil y treialon cychwynnol, y bydd angen i ysgolion wneud gwelliannau sylweddol wrth addysgu rhesymeg rifiadol yn unol â’r disgwyliadau a amlinellir yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a bydd hyn yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.
Wrth gwrs, mae yna wersi i’w dysgu yn sgil blwyddyn gyntaf y profion. Rwy’n bles gydag ansawdd yr adborth a gafwyd am y profion a’r awgrymiadau adeiladol am sut y gellir eu gwella. O’n rhan ni, rydym yn barod iawn i wrando ar yr adborth hwn a fydd yn help i lywio ein hadolygiad a’n gwerthusiad o’r profion. Heb ddymuno rhagddyfalu casgliadau ein hadolygiad o’r profion, rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu gwneud yn well y flwyddyn nesaf, ac rwy’n rhagweld dod yn ôl at Aelodau’r Cynulliad yn yr hydref i amlinellu fy nghynlluniau ar gyfer profion Mai 2014.