Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y gwyddoch yn sgil fy natganiad ar 4 Mawrth, mae'r penderfyniad i leihau cyfradd uchaf y comisiwn sy'n daladwy ar werthiant cartref symudol un pwynt canran bob blwyddyn o 10% i 5% wedi bod yn destun adolygiad barnwrol.  Fel rhan o'r broses honno, rhoddais ymrwymiad i'r Llys na fyddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau hyd nes bod yr adolygiad barnwrol wedi'i gwblhau.

Wedi ystyried yn ofalus wybodaeth a ddaeth i'r amlwg ers dechrau'r achos, rydw i wedi penderfynu peidio â rhoi'r penderfyniad ar waith, ac ailystyried y mater o'r newydd.

Fel y byddai aelodau, perchenogion cartrefi mewn parciau a pherchenogion safleoedd yn ei ddisgwyl, rydw i eisiau sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei hystyried yn llawn cyn gweithredu unrhyw newid i gyfradd uchaf y comisiwn.

Felly, ac er mwyn sicrhau bod unrhyw newid yn llwyddo i gyflawni'r nodau y bwriedid eu cyflawni, byddaf yn ailfeddwl o'r newydd ynghylch p'un a ddylid newid cyfradd uchaf y comisiwn, ac os felly o faint a thros ba gyfnod.  

Fel rhan o’r broses o ailystyried y penderfyniad, byddaf yn ymgysylltu â'r sector ac rydw i’n meddwl comisiynu rhagor o waith ymchwil i sicrhau fy mod yn seilio fy mhenderfyniad ar y dystiolaeth gryfaf bosibl.  

Rydw i'n sylweddoli y bydd rhai pobl yn siomedig i glywed hyn, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau. Fodd bynnag, mae'n bwysig sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ar gael yn cael ei hystyried yn ofalus. Gydol y mater hwn, mae Gweinidogion wedi ymdrechu i ofalu'n deg am fuddion pob parti fel ei gilydd.

Credaf y bydd ailystyried y penderfyniad yn cyfrannu at y nod hwnnw, ac mai dyma'r ffordd orau ymlaen i bob parti. Byddaf yn parhau i roi gwybodaeth i aelodau ynghylch y mater hwn.