Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ymestyn cyfrifoldebau Cyngor Gofal Cymru i gynnwys gwella'r gwasanaeth yn ogystal â chyfrifoldebau presennol ar gyfer rheoleiddio a datblygu'r gweithlu. O fis Ebrill 2017 ymlaen bydd yn newid ei enw i Gofal Cymdeithasol Cymru i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Dyma newid pwysig i'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru'n sefydliad dylanwadol a grymus a fydd yn gallu gosod cyfeiriad strategol a chefnogi'r sector i gyflawni gwelliannau. Yn ystod y broses ddatblygu, mae'r sector wedi bod yn rhan o'r gwaith o gynllunio gweithgareddau a strwythur y corff. Mae hyn wedi digwydd drwy'r Grŵp Llywio Gwella Strategol, a sefydlwyd gan Weinidogion, yn y lle cyntaf. Yna, yn fwy diweddar, drwy Banel Cynghori Cyfnod Pontio Gofal Cymdeithasol Cymru.  

Dan gadeiryddiaeth Arwel Ellis Owen, sef Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector. Fe'i sefydlwyd ym mis Mai y llynedd i ddatblygu cynllun pontio a chyfathrebu.  Mae'n bleser gennyf ddweud bod adroddiad terfynol y panel wedi dod i law ac rwyf wedi ei gyhoeddi heddiw.  Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r cyfeiriad sy'n cael ei osod ganddo. Mae rhai meysydd a fydd yn parhau i ddatblygu, ond mae consensws cadarnhaol eisoes ar draws y sector am Gofal Cymdeithasol Cymru a'i botensial.

Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar themâu craidd sy'n ystyried gwella ymchwil gofal cymdeithasol a sicrhau gwelliannau i'r gwasanaeth, ynghyd â strwythurau rheoli ar gyfer y corff a chynllun cyfathrebu i sicrhau bod y newid yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf bosibl.
Rwyf wedi gofyn i Arwel Ellis Owen lywio'r cam nesaf yn y cyfnod pontio. O fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017, bydd yn cadeirio grŵp cyfeirio dan arweiniad Cyngor Gofal Cymru, gyda chyfrifoldeb dros weithredu tipyn o'r cyngor, ac fe fydd yn chwarae rhan allweddol yn cysylltu gyda ffrydiau gwaith pwysig eraill ar draws y sector.
Bydd y grŵp cyfeirio hwn yn cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni'r cynllun cyfathrebu a'r cynigion llywodraethu. Bydd yn ymwneud â'r sector a'r cyhoedd fel rhan o'i waith.

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn symud ymlaen â'r cynigion ymchwil yn yr adroddiad yn ystod 2016-17. Bydd yr Athro Jonathan Bisson, pennaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cadeirio'r Grŵp Cydlynu Ymchwil Strategol, a fydd, o 2017-18 ymlaen, yn dod yn rhan o Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd y grŵp yn datblygu strategaeth ymchwil gofal cymdeithasol ac yn cydlynu, blaenoriaethu a monitro perfformiad gweithgarwch ymchwil sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Hoffwn ddiolch i aelodau Panel Cynghori Cyfnod Pontio Gofal Cymdeithasol Cymru a'i is-grwpiau am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.