Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu i roi gwybod i aelodau y cafodd Llywodraeth Cymru wybod ddydd Llun 15 Ionawr bod Carillion wedi cofnodi ansolfedd, a bod yr Uchel Lys wedi penodi'r Derbynnydd Swyddogol fel diddymwr Carillion.

Mae Carillion yn ddarparwr gwasanaethau allanol ac adeiladu sylweddol i Lywodraeth y DU, ond gallaf gadarnhau nad yw'r un fath yn wir yma yng Nghymru.

Lle bo contractau â Carillion ar waith, byddwn yn gweithio gyda'n cynghorwyr a'r Derbynnydd Swyddogol i gytuno ar y ffordd orau ymlaen er mwyn lleihau effaith y sefyllfa anffodus hon. Bydd pob opsiwn i leihau unrhyw oedi posibl yn cael eu hystyried.

Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi gweithwyr Carillion a'r cadwyni cyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi gweithwyr i ganfod swyddi eraill neu hyfforddiant yn ôl yr angen drwy raglenni cymorth Llywodraeth Cymru, megis REACT.

Gallaf gadarnhau bod Carillion yn rhan o un o'r ceisiadau i gynnal gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau o fis Hydref 2018, a datblygu agweddau allweddol cam nesaf y Metro. Mae'r sefydliad ymgeisio dan sylw ar hyn o bryd yn ystyried ffyrdd y gall barhau'n gyfreithlon yn y broses.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddsoddiad ac ymrwymiad y sefydliad ymgeisio dan sylw yn y broses gaffael hyd yn hyn, a bydd yn ystyried yr opsiynau'n deg gan gydymffurfio â chyfraith gaffael a darparu camau diogelu priodol i Lywodraeth Cymru.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Network Rail, sydd wedi cadarnhau nad yw gwaith Carillion i'r cwmni yn cynnwys y gwaith o gynnal y rheilffordd o ddydd i ddydd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda nhw i drin a thrafod unrhyw ran sydd gan Carillion yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni.

Ar hyn o bryd, Carillion sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i ddylunio cynllun ffordd yr A40 o Landdewi Felffre i Benblewin. Rydym felly yn ystyried yr holl opsiynau o ran y ffordd orau o symud ymlaen i gamau nesaf y prosiect er mwyn lleihau unrhyw oedi. Mae hyn yn cynnwys ystyried cynnig contract uniongyrchol i gwmnïau o gadwyn gyflenwi Carillion.

Carillion hefyd sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i ddylunio gwelliannau i gyffordd 15 a 16 o'r A55. Cyhoeddwyd rhybudd elw Carillion ym mis Gorffennaf 2017 ar ôl i gais y cwmni ar gyfer y prosiect ddod i law a'i asesu, ond cyn dyfarnu'r contract yn ffurfiol i'r cwmni.

Yn syth wedi i rybudd elw Carillion ymddangos yn y wasg ym mis Gorffennaf 2017, oedodd Llywodraeth Cymru ei phroses gaffael er mwyn cynnal ymchwiliadau i sefydlogrwydd ariannol y cwmni.

Ymatebodd Carillion yn ffurfiol gan roi sicrwydd ynghylch ei sefydlogrwydd, ac oherwydd  hyn, ynghyd â'r ffaith mai contract i ddylunio yn unig oedd Llywodraeth Cymru wedi'i ddyfarnu ar y pryd, ni allai'r Llywodraeth dynnu'r contract yn ôl yn gyfreithlon. Byddai peidio â dyfarnu'r contract i Carillion wedi golygu y gallai Llywodraeth Cymru gael ei herio o dan gyfraith gaffael.

Yn yr un modd â phrosiect yr A40, byddwn yn ystyried yr holl opsiynau o ran y ffordd orau o symud ymlaen i gamau nesaf prosiect cyffordd 15 a 16 yr A55 er mwyn lleihau unrhyw oedi. Mae hyn yn cynnwys ystyried cynnig contract uniongyrchol i gwmnïau o gadwyn gyflenwi Carillion.