Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2020, cafodd Cynllun Gweithredu Allforio Cymru ei gyhoeddi, gan nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu cymorth i allforwyr yng Nghymru ac i’r cwmnïau hynny sy’n bwriadu allforio am y tro cyntaf.

Mae allforion yn hanfodol bwysig i economi Cymru, ac mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein rhwymo i weithredu ein cynllun uchelgeisiol er mwyn cynnal perfformiad allforio Cymru, a’i dyfu, er gwaethaf yr heriau parhaus yn yr amgylchedd masnachu byd-eang. O’r rhyfel yn Wcráin i ansefydlogrwydd arian cyfred a’r costau cynyddol ym meysydd morgludo ac ynni. Mae’r problemau byd-eang hyn wedi cael effaith fawr ar ein hallforwyr, a oedd eisoes yn wynebu problemau yn sgil ymadawiad y DU â’r UE a phandemig COVID-19.

Er gwaethaf yr heriau parhaus hyn, mae allforwyr Cymru wedi dangos eu bod yn wydn. Mae’r ffigurau allforio dros dro diweddaraf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022, yn dangos bod gwerth £18.4 biliwn o nwyddau wedi’u hallforio o Gymru, sef cynnydd o fwy na thraean o’i gymharu â’r cyfnod 12 mis blaenorol a £0.7 biliwn yn fwy o’i gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019, sy’n dangos bod allforion nwyddau wedi adfer y tu hwnt i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn bosibl bod gwerth yr allforion nwyddau o Gymru lawer yn llai na’u gwerth pe na bai’r heriau byd-eang hyn yn bodoli. Ni allwn fod yn hunanfodlon felly, a rhaid inni fod yn gadarn o ran ein huchelgais i sbarduno cynnydd pellach yn yr allforion o Gymru.

Fel rhan allweddol o sicrhau hyn, mae’n bwysig ysbrydoli busnesau i ymgymryd ag allforio, os yw hynny’n briodol iddyn nhw. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi rhoi sylw i gwmnïau allforio llwyddiannus drwy ein hymgyrch Esiamplau Allforio a, thrwy’r rhaglen Allforwyr Newydd, darparwyd cymorth dwys i fusnesau sydd â’r potensial i fasnachu’n rhyngwladol. Ym mis Mawrth 2022, mynychodd mwy na 200 o gynrychiolwyr y Gynhadledd Allforio – y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf roedd ein Tîm Allforio wedi’i gynnal ers 2018 – a chefnogwyd y gynhadledd gan fwy na dwsin o sefydliadau partner. Roedd yn gyfle i gasglu ynghyd yr ecosystem allforio o bob rhan o Gymru, amlygu’r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi allforwyr a chyflwyno cwmnïau i’n swyddfeydd tramor a’r gwaith y gallan nhw ei wneud i gefnogi cwmnïau i allforio.  

Yn ogystal, rydyn ni wedi gwella’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i allforwyr ar-lein drwy’r Hyb Allforio, sef platfform digidol y mae Busnes Cymru’n ei gynnal sy’n rhoi mynediad i gwmnïau i adnodd cynhwysfawr o wybodaeth allforio arbenigol. Ynghyd â hynny, mae’r Hyb wedi cynnal cyfres o weminarau cynhwysfawr ar-lein i fusnesau yng Nghymru i’w helpu i ddeall prosesau allforio a’r cyfleoedd mae marchnadoedd tramor allweddol yn eu cynnig, gan cynnwys y rhai sydd wedi ymrwymo i Gytundebau Masnach Rydd gyda’r Deyrnas Unedig.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflawni rhaglen lawn o deithiau ac arddangosfeydd masnach mewn marchnadoedd ledled Gogledd America, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia. Mae codi’r cyfyngiadau ar deithio yn golygu ein bod wedi gallu ailgyflwyno teithiau masnach wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynnal rhaglen o ddigwyddiadau rhithwir. Rwy’n falch o fod wedi arwain teithiau masnach i’r Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar eleni a gweld, â’m llygaid fy hun, y buddion a geir wrth i gwmnïau gwrdd â darpar gwsmeriaid wyneb yn wyneb. Cydredodd y daith fasnach i'r Emiradau Arabaidd Unedig ag Expo y Byd yn Dubai, ac roedd yn gyfle i fusnesau o Gymru gymryd rhan mewn gweminar fyd-eang a gafodd ei chynnal fel rhan o raglen yr Expo.  

Mae llwyddiant tîm pêl-droed dynion Cymru o ran cyrraedd Pencampwriaeth Pêl-droed Cwpan y Byd wedi cynnig llwyfan ar gyfer dathlu a hyrwyddo allforwyr o Gymru, a hynny ar lefel fyd-eang. Yn ddiweddar, ymunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru â ni ar daith fasnach i Ogledd Carolina lle roedden nhw wedi manteisio ar y cyfle i roi sylw i’w modelau hyfforddi ieuenctid, sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn Unol Daleithiau America. Roedden ni’n ffodus hefyd bod Rob Page, hyfforddwr pêl-droed tîm Cymru, wedi gallu ymuno â ni yng nghartref tîm NFL y Carolina Panthers, drwy gysylltiad digidol, wrth inni edrych ymlaen at ein gêm yn erbyn UDA ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd.

Wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu Allforio a chefnogi busnesau yng Nghymru i dyfu eu masnach rhyngwladol, rydyn ni wedi parhau i weithio’n agos gyda’r ecosystem o gymorth allforio yng Nghymru. Er mai Llywodraeth Cymru sydd wrth galon yr ecosystem hon, rydyn ni’n dibynnu ar ein partneriaid i ddarparu cymorth ac arbenigedd.   

Byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y sylfaen gadarn a sefydlwyd dros y deuddeg mis diwethaf wrth inni gyflawni’r cynllun. Nid oes modd rhagweld beth fydd y sefyllfa o ran masnachu byd-eang o hyd, ac mae ein heconomi yn dal i wella. Mae angen inni allu adweithio ac ymateb i amodau byd-eang er mwyn diwallu anghenion busnesau yn y ffordd orau ar hyd eu taith allforio.