Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y datblygiadau ynghylch ysgol annibynnol Rhuthun.
Fel y corff sy'n cofrestru ysgolion annibynnol, daeth gwybodaeth i sylw Llywodraeth Cymru a gododd bryderon ynghylch y trefniadau diogelu yn yr ysgol. Mewn ymateb, gwnes gais ar i Estyn, ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, gynnal arolygiad pwrpasol dirybudd.
Mae Estyn wedi dod i'r casgliad nad yw'r ysgol yn bodloni holl ofynion Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 ar hyn o bryd. Yn benodol, nid yw'n cydymffurfio'n llawn â gofynion rheoliadol Safon 3 sy'n ymwneud â lles, iechyd a diogelwch disgyblion.
Cyfrifoldeb Cyngor Rheoli'r ysgol yw diogelu'r disgyblion a hyrwyddo lles holl aelodau cymuned yr ysgol.
Yn dilyn arolygiad Estyn, cyflwynodd fy swyddogion yr adroddiad i'r Cyngor Rheoli, ac ar yr un pryd gofynnwyd i'r Cyngor lunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd yn adroddiad Estyn.
Fel mater o fuddiant cyhoeddus, mae Estyn wedi cytuno i gyhoeddi ei adroddiad heddiw. Mae dolen wedi'i chysylltu â'r datganiad hwn. https://www.estyn.llyw.cymru/darparwr/6636027?_ga=2.83545750.1229951545.1580298111-723050249.1578404213
O ran cynllun gweithredu'r Cyngor Rheoli a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn, mae swyddogion y Llywodraeth wrthi'n ystyried yn ofalus y camau nesaf, ar ôl cael adborth gan Estyn ynghylch a yw'r cynllun yn adnodd cwbl effeithiol i sicrhau'r gwelliannau gofynnol.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i roi cyfarwyddyd i ysgol annibynnol i ddiswyddo aelod staff. Cyfrifoldeb perchennog yr ysgol yw hynny, neu os mai Bwrdd Ymddiriedolwyr sydd yna, y Cyngor Rheoli. Serch hynny, rwy'n disgwyl i bob ysgol annibynnol weithredu er budd pennaf y disgyblion, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i ddiogelu'r disgyblion hynny.
Fodd bynnag, os na fydd ysgol annibynnol yn cymryd camau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol mewn ffordd sydd, ym marn Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, yn briodol, byddai modd tynnu'r ysgol o'r gofrestr ysgolion annibynnol yn y pen draw. Byddai hyn yn golygu nad yw'r ysgol yn cael cynnig addysg lawn-amser bellach.
Wrth ystyried cam o'r fath, byddai unrhyw Weinidog yn gorfod rhoi sylw gofalus i'r canlyniadau sylweddol a phellgyrhaeddol i'r ysgol, y staff, y disgyblion a'r gymuned.
Bydd gennyf fwy o wybodaeth i'r Aelodau maes o law.