Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae addysg a hyfforddiant yn sylfaenol er mwyn sicrhau bod y gweithlu gofal iechyd yn addas i’r diben ac yn gynaliadwy, ac yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad priodol i ddiwallu’r heriau sy’n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol.
Ar 14 Ebrill, cyhoeddwyd yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol (HPEI), o dan arweiniad Mr Mel Evans, OBE. Fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried y buddsoddiad mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol ar draws Cymru ac a yw’n cyflawni’r canlyniadau cywir i Gymru ac i’n gwasanaeth iechyd.
Yn yr adolygiad cafwyd ystod eang o argymhellion ar gyfer y dyfodol, a oedd yn agored i gyfnod chwe wythnos o ymgysylltu, er mwyn rhoi cyfle i bobl a sefydliadau gyfrannu at y ddadl bwysig hon.
Bu’r adolygiad yn sbardun ar gyfer trafod materion allweddol sy’n gysylltiedig ag addysgu a hyfforddi’r gweithlu gofal iechyd. Daeth mwy na 70 o gyfraniadau i law yn ystod y broses ymgysylltu, ac roedd y rhain yn adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau.
Mae’r ymatebion hyn wrthi’n cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae nifer o sefydliadau wedi cyflwyno awgrymiadau neu sylwadau y maent yn eu hystyried yn ffactorau pwysig yn y ddadl hon. Mae rhai ohonynt gan sefydliadau ac unigolion nad oeddent yn gallu cyfrannu at waith gwreiddiol y panel.
Felly, rwyf wedi gofyn i banel yr HPEI ailgynnull er mwyn ystyried yr ymatebion a gafwyd ac i nodi unrhyw feysydd lle byddent o bosib am ailystyried eu casgliadau neu ychwanegu sylwadau yng ngoleuni’r pwyntiau a wnaed. Rwy’n ddiolchgar i’r panel am gytuno i ymgymryd â’r gwaith ychwanegol hwn, a fydd yn dod i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Yn yr hydref cyflwynir ymateb llawn i’r adolygiad, gan gynnwys canlyniadau’r trafodaethau a gafwyd gan y panel wedi iddo ailgynnull.