Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o gael rhoi’r diweddaraf am hynt y gwaith o ymateb i gyhoeddi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru. Rwyf bellach wedi cael ymatebion ffurfiol i’r adroddiad gan gadeiryddion Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a’r tri bwrdd ar gyfer ardal y Canolbarth (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).

Mae pob bwrdd yn cydnabod y dadansoddiad ac yn cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad, yn enwedig yr angen i gydweithredu i gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd diogel, cynaliadwy a hygyrch o ansawdd uchel i bobl y Canolbarth. Hefyd ceir cefnogaeth ar gyfer cadeirydd annibynnol ar unrhyw drefniadau newydd. Mae pob ymateb yn ddefnyddiol o ran amlinellu rhai enghreifftiau da o fentrau sy’n mynd rhagddynt eisoes i gefnogi argymhellion yr adroddiad.

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi penodiad dau gyd-gadeirydd annibynnol ar gyfer Bwrdd Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru, sy’n cael ei sefydlu drwy’r tri bwrdd iechyd a WAST. Mae hyn yn bwrw ymlaen yn ffurfiol ag argymhelliad ffurfiol cyntaf yr Athro Longley.

Mae Dr Ruth Hall CB a Mr Jack Evershed ill dau wedi cytuno i ymgymryd â’r rolau hyn, sy’n hanfodol bwysig o ran herio a chefnogi’r byrddau iechyd. Mae’n bartneriaeth gref a fydd yn gyfle gwych i roi ar brawf a datblygu ffyrdd newydd i’r cyd-gadeiryddion gydweithio mor effeithiol â phosibl. Bydd cyfrifoldebau allweddol y cyd-gadeiryddion annibynnol yn cynnwys:

  • Cadeirio cyfarfodydd Bwrdd Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru;
  • Arwain ar faterion cymhleth, fel y mae Bwrdd Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru yn penderfynu arnynt;
  • Hyrwyddo syniadau newydd o ran mynd i’r afael â heriau hanesyddol;
  • Rhoi brwdfrydedd a mynd ati i gyfathrebu gyda’r cyhoedd, staff a chlinigwyr;
  • Hwyluso ffordd gydweithredol o ddatrys materion.


Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud y penodiad ffurfiol fel rhan o sefydlu Bwrdd Cydweithredol Iechyd Canolbarth Cymru o’r newydd.

Bydd Cynhadledd Gofal Iechyd Gwledig Canolbarth Cymru – un o argymhellion eraill Adroddiad yr Astudiaeth – yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Cefn Lea ym Mhowys ar 12 Mawrth. Bydd yn gyfle gwych i dynnu ynghyd y prif ffigyrau sydd â syniadau a phrofiad ynghylch cyflwyno modelau gwasanaeth arloesol mewn ardaloedd gwledig. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn y Gynhadledd a chyfrannu at ei thrafodion.