Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn fuan ar ôl siom mawr y newyddion bod Hitachi Ltd wedi penderfynu tynnu’n ôl o safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn, trefnais gyfarfod bord gron i bwyso a mesur goblygiadau’r cyhoeddiad ar yr ynys, ac i gytuno ar y camau nesaf. Gyda fi yn y cyfarfod roedd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yr Aelod o’r Senedd dros ynys Môn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Prif Weithredwr Horizon Nuclear Power a rhanddeiliaid allweddol arall.
Bu cytundeb clir nad yw’r farn wedi newid mai Wylfa yw’r safle gorau yn y DU ar gyfer datblygiad niwclear mawr. Mae’r safle, a allai wneud cyfraniad sylweddol at y targed o ddim allyriadau CO2 erbyn 2050, yn cael ei gefnogi gan bartneriaeth gref, ymrwymedig, sefydlog iawn – ond ni ddylid cymryd y gefnogaeth honno a’r drwydded gymunedol i weithredu yn ganiataol.
Yn ystod y cyfarfod bwrdd gron gwnaethom gytuno bod angen inni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ynghylch polisi ar ynni niwclear ac, yn hollbwysig, sut bydd unrhyw polisi o’r fath yn cael ei ariannu. Gwnaethom gytuno hefyd y byddai estyn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd y tu hwnt i 30 Medi yn fuddiol, er mwyn cadw unrhyw elfennau o werth ar gyfer unrhyw atebion posibl ar gyfer y safle yn y dyfodol. Felly, rwy’n croesawu’r estyniad o dri mis, tan 31 Rhagfyr 2020, a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol. Cafwyd hefyd fod yr angen i asesu yn gyflym anghenion economaidd-gymdeithasol yr ynys yn ofyniad pwysig, a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a rhanddeiliaid allweddol ar yr asesiad hwnnw.
Byddaf yn cynnal trafodaethau pedairochrog rheolaidd gydag Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weithredwr Horizon Nuclear Power dros y misoedd nesaf wrth inni ymchwilio i atebion posibl ar gyfer y safle.
Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau ein bod yn bwriadu sefydlu cwmni datblygu newydd, Cwmni Egino, yn Nhrawsfynydd. Bydd Cwmni Egino yn helpu i ymelwa ar fanteision economaidd enfawr a’r technolegau cysylltiedig yn Nhrawsfynydd, gan gynnwys y potensial ar gyfer adweithydd ymchwil feddygol, i sicrhau cyflenwad diogel a chynaliadwy o radioisotopau ar gyfer Cymru, y DU ac Ewrop.
Mae arbenigedd a sgiliau ym maes niwclear yng Ngogledd Cymru, gydag AMRC Cymru a datblygiadau ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal â’r safleoedd yn Nhrawsfynydd ac Wylfa. Rwyf am sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y rhain ac ar flaen y gad wrth wneud datblygiadau newydd. Mae sefydlu Cwmni Egino yn dangos ein hymrwymiad i’r sector niwclear yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi Arc Niwclear y Gogledd Orllewin gyda'r uchelgais i gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd niwclear ledled Gogledd Cymru.
Mae’r cyhoeddiad gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y byddai dull parhaus ar gyfer datgomisiynu yn cael ei ddefnyddio yn Nhrawsfynydd (yn amodol ar yr Achos Busnes yn cael ei gymeradwyo) yn newyddion da ar gyfer y gadwyn cyflenwi yng Nghymru. Bellach dylai gwaith datgomisiynu ar y safle barhau tan y 2030au hwyr, gydag adeiladau’r ddau adweithydd yn cael eu dymchwel yn llawn a chreiddiau’r adweithyddion yn cael eu symud â thechnolegau roboteg uwch. Mae potensial sylweddol ar gyfer allforio arbenigedd o’r fath sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru.
Fy nod yw sicrhau ein bod yn helpu’r gadwyn cyflenwi yng Nghymru i gymryd rhan lawn yn y cyfleoedd hyn a’r rheini sy’n deillio o brosiect Hinkley Point C. Rydym yn cynnig cymorth i Fforwm Niwclear Cymru. Mae ei aelodau eisoes wedi llwyddo i ennill prosiectau sylweddol ac mewn sefyllfa dda i gael yr un llwyddiant ag ar brosiect Sizewell C, os yw’n cael y cymeradwyaethau i barhau.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.