Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Mae Cynhadledd y Partïon y Cenehedloedd Unedig (COP24) yn digwydd ar hyn o bryd, ble y mae arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar weithredu Cytundeb Paris a chyflymu y broses o gyrraedd dyfodol carbon isel. Er na allaf fod yno fy hun, bydd swyddogion yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar lwyfan y byd. Yn hytrach, ac ar ôl bod yn yr Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd yn San Fransisco ym mis Medi, fy mlaenoriaeth fu canolbwyntio ar sefydlu ein gweithredoedd ni yma yng Nghymru trwy ddeddfwriaeth. Mae'r sylfeini wedi'u gosod ac mae'r momentwm yn cynyddu.
Wrth inni nesáu at ddiwedd 2018, rwy'n falch o gyhoeddi bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar y Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r rheoliadau'n dangos ein bod yn chwarae ein rhan yn yr her fyd-eang hon ac yn sicrhau bod Cymru yn rhan o'r chwyldro carbon isel. Mae Rheoliadau 2018 yn nodi:
- Y bydd Cymru yn atebol am bob allyriad yng Nghymru;
- llwybr datgarboneiddio ar gyfer Cymru gyda thargedau lleihau allyriadau dros dro o 27% yn 2020, 45% yn 2030 a 67% yn 2040;
- Mae'r 2 gyllideb carbon yn ostyngiad ar gyfartaledd o 23% rhwng 2016 a 2020 a 33% rhwng 2021 a 2025.
Er y byddwn yn canolbwyntio ar sbarduno'r gweithredu yng Nghymru, rydym yn sylweddoli, os ydym i gynnwys pob allyriad o fewn ein fframwaith, gan gynnwys y meysydd hynny y mae ein pwerau drostynt wedi'u cyfyngu, efallai y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom drwy wrthbwyso i helpu i reoli amgylchiadau na ellir eu rhagweld. Rydym felly wedi gosod terfyn o 10% ar wrthbwyso carbon ar gyfer y cyfnod cyllideb garbon gyntaf.
Mae'r targedau yn ymestyn ac mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi awgrymu eu bod yn agos at yr uchafswm sy'n ymarferol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae adroddiad Hydref o'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at realaeth syber byd y mae hinsawdd o dan reolaeth dynol yn cael parhau. Dyna pam y bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chynllun Addasu drafft ar y Newid yn yr Hinsawdd yr wythnos hon, ac mae bellach ar agor ar gyfer ymgynghoriad.
Eleni, bu i Lywodraeth Cymru gynnwys datgarboneiddio fel un o chwe blaenoriaeth yn y Strategaeth Genedlaethol, Llewyrch i Bawb, gan ei roi fel nod ganolog i'r sefydliad. Rydym hefyd yn sicrhau bod y cylchoedd cyllidebu ariannol a charbon yn cyd-redeg, fel y gallwn sicrhau hyfywedd ariannol y camau yr ydym wedi ymrwymo i'w cymryd. Bwriad y mesurau hyn yw sicrhau bod datgarboneiddio yn flaenllaw ac yn ganolog ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, a sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol am gyflawni'r flaenoriaeth drawsffiniol hon.
Byddwn bellach yn ychwanegu polisïau a gweithredoedd at y sylfeini a sefydlwyd gan y rheoliadau. Ym mis Mawrth 2019 byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Carbon Isel cyntaf, gan ddefnyddio'r ymatebion i ymgynghoriad Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030 a gynhaliwyd dros yr haf. Bydd y cynllun yn amlinellu ein polisïau a'n cynigion i fodloni ein cyllideb garbon gyntaf a bydd yn gosod y cyd-destun polisi hirdymor i ddarparu twf glân a llesiant ehangach ein cymunedau yng Nghymru. Yna dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn dechrau ar broses barhaus o osod targedau, gan ddatblygu a gweithredu polisïau ac adolygu y cynnydd yn erbyn ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer Cymru.
Mae Newid Hinsawdd yn fater sy'n goresgyn ffiniau gwleidyddol a chymdeithasol ac sy'n hollbwysig os ydym i barhau i gydweithio.