Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y Cynllun Iechyd Gwledig ym mis Rhagfyr 2009, yn sgil gwaith gan Grŵp Llywio o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan.  Roedd yn tynnu sylw at dair prif thema, sef mynediad at wasanaethau, integreiddio, a chydlyniant cymunedol.

Sefydlwyd Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Marc Clement, ym mis Chwefror 2010 i helpu i gyflawni’r Cynllun Gweithredu Iechyd Gwledig.  Nododd y Cynllun hwn 31 o gamau, ac mae cynnydd da wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, gyda dros ddau draean o’r camau wedi’u cyflawni yn ystod 2010/2011.

Ym mis Mawrth 2010, dyrannwyd cyllid gwerth £1m i sefydlu’r Gronfa Arloesi Iechyd Gwledig. Mae £1.25m ychwanegol wedi’i ddyrannu ar gyfer 2011-2013.  Dyrannwyd y gronfa i dri maes penodol er mwyn cefnogi:

  • Arloesi lleol:  ariannwyd 15 o brosiectau lleol, a oedd yn cynnwys mentrau i’w gwneud yn haws cael gafael ar wasanaethau fel gwasanaethau hosbis yn y cartref, gwasanaethau allgymorth symudol a gwasanaethau telefeddygaeth, yn ogystal â chydgysylltu ac ymgysylltu â’r Trydydd Sector, a chynlluniau arloesol i dreialu fferylliaeth gymunedol.
  • Dau safle datblygu: clustnodwyd Hywel Dda a Phowys fel Safleoedd Datblygu Iechyd Gwledig i roi prawf ar ddulliau newydd o weithio yng nghefn gwlad.
  • Rhaglenni cenedlaethol:  cafodd dwy ffrwd waith genedlaethol eu nodi a’u datblygu.  Roedd y gyntaf yn archwilio potensial ehangach telefeddygaeth gan ymdrin â mynediad at wasanaethau yng Nghymru wledig.  Roedd yr ail yn ystyried sut i ddatblygu arferion iechyd gwledig, gan nodi cyfleoedd ar gyfer creu model gofal a datblygu’r gweithlu ochr yn ochr â datblygu proffesiynol.    

Gan adeiladu ar y cynnydd da a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf, rwyf erbyn hyn wedi cytuno ar argymhellion Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig ar gyfer ail gam y cynllun.  Bydd yr ail gam hwn yn canolbwyntio ar y chwe maes allweddol canlynol: 

  • Arloesi lleol: Rhannu arferion da ac adeiladu ar y datblygiadau hyd yn hyn.
  • Cydweithrediaeth Datblygu Cenedlaethol Iechyd Gwledig: Bydd y ddau safle datblygu Iechyd Gwledig presennol yn cael eu had-drefnu’n un gydweithrediaeth ar y cyd. Bydd hynny’n creu fforwm ar gyfer cydweithio i ddatblygu a rhannu arferion da i sicrhau y gall gwasanaethau fodloni anghenion iechyd ardaloedd gwledig. 
  • Datblygiadau Teleofal: Mae teleofal yn gyfle i’r GIG gydweithio’n agos â’r sector cyhoeddus cyfan er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â’r defnydd gorau o adnoddau.   Bydd y cam nesaf yn adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn, gan gynnwys datblygu ac ehangu’r wyth ardal glinigol, gan gynnwys dermatoleg, cardioleg bediatrig ac offthalmoleg, a dreialwyd a’u rhoi ar waith yn ehangach ledled Cymru.
  • Y Gweithlu Iechyd Gwledig: Byddwn yn gweithio ymhellach gyda’r Ddeoniaeth a phartneriaid eraill i gryfhau’r gweithlu iechyd gwledig.  Bydd hyn yn cynnwys mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw, datblygu gyrfaoedd meddygol gwledig, datblygu hyfforddiant a sgiliau clinigol, a hyrwyddo arferion meddygol gwledig fel disgyblaeth allweddol. 
  • Cydlyniant a seilwaith cymunedol: Cyfleoedd i fod yn rhan o ddatblygiadau eraill, gan gynnwys y Cynllun Canolfannau Cymunedol, a datblygu rhwydweithiau cymorth yn y Trydydd Sector a’r sector gwirfoddol.
  • Heneiddio'n Egnïol mewn Cymunedau Gwledig: Mae Heneiddio'n Egnïol mewn Cymunedau Gwledig yn un o themâu allweddol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2012. Mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’u his-grŵp iechyd gwledig, byddwn yn ceisio creu amgylchedd cefnogol i bobl hŷn mewn cymunedau gwledig.