Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Ym mis Ionawr 2014, cyhoeddais Adroddiad Blynyddol 2013 Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru
Chwe mis yn ddiweddarach, mae'n amser priodol i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am ein cynnydd pellach o ran mynd i’r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a thrwy hynny wneud ein cymunedau'n fwy diogel.
Er fy mod yn falch o glywed y cyhoeddiad diweddar yn Araith y Frenhines y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fel trosedd drwy gyflwyno Bil Caethwasiaeth Fodern, dechreuodd ein gwaith ar gaethwasiaeth yma yng Nghymru flynyddoedd yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran atal caethwasiaeth. Mae hyn i’w briodoli i'r nod a gafodd ei osod yn ein Rhaglen Lywodraethu i wneud Cymru yn elyniaethus i gaethwasiaeth a rhoi'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Rwy'n mynychu cyfarfodydd y Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol ar Gaethwasiaeth ac rwyf bob amser yn awyddus i rannu'n llwyddiannau gyda gweinyddiaethau eraill y DU. Rwy’n credu bod ganddynt lawer i’w ddysgu oddi wrthym ni.
O'i gymharu â'r camau rydym wedi'u cymryd, megis dechrau y mae ymateb Llywodraeth y DU i'r drosedd erchyll hon. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth, a hynny dair blynedd yn ôl, ond dim ond nawr y mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Comisiynydd Atal Caethwasiaeth. Ar lefel strategol, rhoddir arweinyddiaeth drwy Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl i roi trosolwg a chyfeiriad i atal caethwasiaeth yng Nghymru.
Rwy'n falch o gael nodi ein bod wedi gwneud cynnydd pellach ers cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2013 ym mis Ionawr.
Rydym wedi creu newid sylweddol mewn hyfforddiant atal caethwasiaeth ledled Cymru ac rydym yn cyflawni ar sawl lefel, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol rheng flaen penodol, a hynny gyda'r heddlu, Awdurdodau Lleol a'r Trydydd Sector. Mae ansawdd ein hyfforddiant yn ennyn diddordeb o bob rhan o'r DU.
Ar hyn o bryd, ceir nifer gyfyngedig o atgyfeiriadau i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, gyda 34 yn 2012. Cynyddodd hyn i 50 yn 2013. Er mwyn gweld y darlun caethwasiaeth cyfan, rydym yn cyfrannu at grŵp dan arweiniad y Swyddfa Gartref sy'n adolygu'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol i weld a yw'r system yn ffordd effeithiol ac effeithlon o adnabod a chefnogi goroeswyr caethwasiaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ar wella'r sylfaen dystiolaeth ar achosion yng Nghymru.
Un cam hanfodol yw ein bod wedi datblygu Llwybr Gofal Goroeswyr i sicrhau cysondeb yn y ffordd y caiff goroeswyr eu helpu lle bynnag y bônt. Mae'n cael ei gyflwyno ledled Cymru ar ôl cael ei roi ar brawf yn llwyddiannus yng Nghaerdydd. Yn dilyn ein llwyddiant o ran sicrhau statws Ymatebwr Cyntaf i Bawso a Llwybrau Newydd ar gyfer y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, rydym bellach yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n atgyfeirio eu hunain i'r broses a fyddai cyn hynny heb wneud oherwydd eu bod ofn bygythiadau, allgludiad neu garcharu.
Rydym wedi cefnogi sefydlu Fforymau Rhanbarthol Atal Caethwasiaeth ac mae'n bleser gennyf nodi eu bod bellach yn ymestyn dros Gymru gyfan. Mae'r fforymau hyn yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn ogystal â chyflwyno mentrau lleol i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol. Mae enghreifftiau yn cynnwys y Llwybr Goroeswyr a Chynadleddau Asesu Risg Aml-asiantaeth Atal Caethwasiaeth, sy'n blaenoriaethu cymorth, a roddwyd ar brawf yn wreiddiol gan Fforwm Caerdydd ac sydd bellach yn cael eu datblygu ledled Cymru. Hefyd, yn dilyn Cynhadledd Atal Caethwasiaeth Fforwm Bae'r Gorllewin, mae prosiectau 'Gweithwyr Rhyw' i atal cam-fanteisio rhywiol wedi cael eu sefydlu yng Nghaerdydd a Bae'r Gorllewin. Bydd y gwersi o'r prosiectau hyn yn cael eu rhannu ar draws Cymru.
Rydym wedi datblygu protocolau Rhannu Gwybodaeth i sicrhau bod mwy o waith gorfodi'r gyfraith yn digwydd i ddod â throseddwyr i gyfiawnder ac achub pobl sy'n cael eu cadw mewn caethwasiaeth. Mae'r protocolau hyn bellach wedi cael eu gosod gyda phedair ardal yr Heddlu yng Nghymru a'r Fforymau Rhanbarthol Atal Caethwasiaeth. Mae'r gwersi a'r arfer da o ymchwiliad Heddlu Gwent 'Operation Imperial', lle’r achubwyd dyn oedd wedi bod mewn caethwasiaeth ers tair blynedd ar ddeg, wedi cael eu pasio i Heddluoedd eraill Cymru i helpu gydag ymchwiliadau yn y dyfodol. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn mae Heddlu Gwent wedi arestio pum dyn arall ac wedi achub dau ddyn. Yr honiad oedd fod un dyn wedi’i gaethiwo am 26 mlynedd a’r dyn arall am saith mlynedd.
Mae codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chydnabyddiaeth y cyhoedd a'r Trydydd Sector o gaethwasiaeth a'i goroeswyr wedi bod yn flaenoriaeth, ac wedi digwydd drwy ein Cynllun Cyswllt Cyfathrebu Atal Caethwasiaeth. Mae hyn yn cynnwys ein hysbyseb teledu cenedlaethol ac ymgyrch bosteri hynod lwyddiannus ym mis Chwefror, y mae Llywodraeth y DU yn awyddus iawn i'w hefelychu. Hefyd ariannwyd cynhyrchiad grymus 'Sold' gan Theatre versus Oppression ar DVD, a chynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru, Aelodau'r Cynulliad, Prif Gwnstabliaid, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, aelodau Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru a gwahoddedigion eraill. Hefyd rydym wedi cefnogi cynadleddau Atal Caethwasiaeth yng Nghaerdydd, Bangor, Abertawe a Wrecsam.
Mae ariannu Cydgysylltydd Rhanbarthol Atal Caethwasiaeth yn y Gogledd, yn profi'n llwyddiant, ac mae mentrau lleol fel rhannu gwybodaeth aml-asiantaeth a hyfforddiant ymwybyddiaeth atal caethwasiaeth yn cael eu cyflwyno ar draws y Gogledd o ganlyniad. Er mwyn cefnogi ein gwaith lleol ymhellach, rwyf wedi gwneud cyfraniad dros y ddwy flynedd nesaf i'r cyllid cyffredinol ar gyfer Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod codi ymwybyddiaeth ac atal caethwasiaeth hefyd yn rhan o'u rôl.
Yn ddiweddar rwyf wedi ymweld â Maes Awyr Caerdydd a Phorthladd Caergybi i weld y trefniadau diogelwch ar gyfer atal caethwasiaeth a chwrdd â staff allweddol sy'n rhan o'r gwaith hwn, gan gynnwys yr Heddlu, Llu Ffiniau y DU a chludwyr. Hefyd cefais y cyfle i gwrdd â staff rheng flaen ar hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i gael y sgiliau a'r hyder i atal caethwasiaeth.
Ffaith drist yw bod y drosedd erchyll hon yn digwydd yma yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf wedi cwrdd â goroeswyr caethwasiaeth, ac roedd eu hanesion yn rhai emosiynol a brawychus. Rwyf wedi cwrdd â darparwyr Trydydd Sector sydd wedi cynorthwyo a chefnogi’r goroeswyr hyn i gael rhyw fath o normalrwydd yn ôl yn eu bywydau, a lle bo modd, mynd adref at eu teuluoedd. Ac rwyf wedi cwrdd â Swyddogion yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron a'r Heddlu sy'n gweithio'n ddiflino i ganfod y troseddwyr a dod â nhw i gyfiawnder. Nid yw hyn yn waith hawdd, gan fod tystion yn aml yn teimlo ofn ac yn gyndyn i ddod ymlaen, ynghyd â grym y gangiau troseddu cyfundrefnol mawr sy’n aml y tu ôl i'r drosedd gynyddol hon.
Mae ein llwyddiant yng Nghymru, sydd yn destun edmygedd mewn gwledydd eraill, yn seiliedig ar waith partneriaeth cadarn. Yr ymateb i'r achosion unigol a'r strwythurau a'r prosesau rydym wedi'u gosod, ar draws y gwasanaeth cyhoeddus datganoledig a heb ei ddatganoli, ynghyd â chyfraniad hollbwysig y Trydydd Sector, sydd wedi gwneud y gwahaniaeth.
Mae parodrwydd mawr wedi bod yn yr ymateb aml-asiantaeth hwn, ynghyd ag ymrwymiad i gydweithio i wneud pobl a chymunedau'n fwy diogel. Rydym yn cydnabod na all un asiantaeth neu lywodraeth atal caethwasiaeth. Rydym yn rhannu'r gwersi o'r achosion hyn i roi'r sgiliau a'r hyder i'r rheini sydd ar y rheng flaen i ymdopi â'r achosion y byddwn, yn anffodus ac yn anochel, yn eu gweld yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau bras tuag at gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i atal caethwasiaeth. Byddaf yn parhau i ddatblygu ein hagenda, ar y cyd â'n partneriaid, i wneud Cymru yn elyniaethus i gaethwasiaeth a rhoi'r cymorth gorau posibl i oroeswyr.