Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad 14 wythnos ar gryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r achos dros gau ysgol wledig fod yn un cryf, ac ni fydd y penderfyniad i ymgynghori a’i chau yn cael ei gymryd hyd nes y bydd pob dewis amgen ymarferol arall wedi ei ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio.  Rydym yn sicrhau bod pob ysgol a chymuned, lle bynnag y bônt, yn cael gwrandawiad teg.

Er mwyn cael rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau, mae angen diffinio ysgol wledig at y diben penodol hwnnw. Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu diffiniad o ysgolion gwledig ac yn cyhoeddi rhestr o ysgolion gwledig. Pan fydd awdurdodau lleol, neu gynigwyr eraill, yn ystyried cau ysgol, bydd angen iddynt gadarnhau a yw’r ysgol ar y rhestr a bydd y gofynion pellach a nodir yn y Cod yn gymwys. Mae’r ymgynghoriad felly yn ceisio barn am gynigion ar gyfer dynodi priodol.

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion wrth wraidd y darpariaethau a gyflwynwyd gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  Gyda’i gilydd, mae’r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf a’r Cod wedi cyflymu proses trefniadaeth ysgolion drwy sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, y caiff penderfyniadau eu gwneud ar lefel leol. Rydym wedi adolygu’r Cod yn dilyn tair blynedd o weithredu ac wedi cynnig nifer o newidiadau sy’n adlewyrchu’r adborth a’r hyn a ddysgwyd dros y cyfnod hwnnw. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y rhain ac yn rhoi cyfle i ymgynghoreion roi sylwadau eraill ar y Cod.

Mae’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a’i dynnu at sylw’r prif randdeiliaid gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol. Edrychaf ymlaen at gael ymateb Aelodau’r Cynulliad i’r ymgynghoriad ac rwy’n eu cymell i annog rhieni, athrawon a chymunedau yn eu hetholaethau i ymateb iddo hefyd.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cod-trefniadaeth-ysgolion
 
Yn fy Natganiad Llafar yn un o’r cyfarfodydd llawn ym mis Tachwedd, nodais nifer o gamau gweithredu eraill y byddwn yn eu cymryd mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig. Bydd y camau hyn yn cefnogi ein nod ehangach i gryfhau ac ymestyn y berthynas rhwng ysgolion a'i gilydd a blaenoriaethu arweinyddiaeth yn y byd addysg. Maent yn cydnabod bod ysgolion a chymunedau mewn rhannau gwahanol o Gymru yn wynebu heriau gwahanol wrth i ni symud ymlaen gyda'n diwygiadau i godi safonau addysg a lleihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad.

Ers mis Ebrill 2017, rydym wedi cyflwyno grant newydd o £2.5m y flwyddyn i hyrwyddo arloesedd a chodi safonau mewn ysgolion bach a gwledig yng Nghymru. Bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru, maent wedi cael gwybod faint o arian grant y byddant yn ei gael ac maent wedi cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwariant
ddiwedd mis Mai. Rydym wrthi’n asesu’r cynlluniau hynny a sut y byddant o fudd i ysgolion bach a gwledig, yn unol â phrif ddibenion y grant, sef:  

• annog arloesi (er enghraifft defnyddio technolegau newydd i fynd i'r afael â materion megis ynysu proffesiynol drwy ddefnyddio grym TG);
• cefnogi rhagor o gydweithio rhwng ysgolion gan gynnwys cydweithredu a ffedereiddio i godi safonau;
• darparu cymorth gweinyddol mewn ysgolion lle mae gan y pennaeth amserlen addysgu drom; a
• cynyddu defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion.

Cydweithio rhwng ysgolion yw conglfaen strategaeth Llywodraeth Cymru i godi cyrhaeddiad addysgol ac mae’n un o’r prif bethau y mae’r grant ysgolion bach a gwledig yn canolbwyntio arno.

Byddaf mewn cysylltiad eto i roi gwybod i chi am y cynnydd dros y misoedd i ddod.