Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Mae prosiect Cyflymu Cymru yn parhau. Bellach, mae mwy na 425,000 o gartrefi a busnesau’n gallu cael mynediad at fand eang ffibr cyflym o ganlyniad i’r prosiect.
Ers dechrau mis Ebrill, mae 41 o ardaloedd cyfnewidfa wedi mynd yn fyw ac mae band eang ffibr bellach ar gael i gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd hynny.
Yn fy natganiad diwethaf ar 3 Mawrth 2015, nodais gynlluniau i ddarparu band eang cyflym iawn i eiddo nad yw’n cael ei wasanaethu gan wasanaeth cwmni masnachol neu ardal ymyriad Cyflymu Cymru. Pennwyd tua 45,000 eiddo yn y categorïau hyn drwy Arolwg o’r Farchnad Agored ac ymgynghoriad â’r cyhoedd a gynhaliwyd y llynedd.
Yn y datganiad hwnnw, hefyd, cyhoeddais ein bod, ar 11 Chwefror, wedi gwahodd tendrau ar gyfer darparu band eang ffibr cyflym i hyd at 2,500 o eiddo busnes mewn ystadau diwydiannol a pharciau busnes ar hyd a lled y wlad. Mae’r broses dendro bellach ar ben ac mae swyddogion wrthi’n ystyried y cynigion. Fe roddaf ddiweddariad pellach ar y cynigion llwyddiannus tua dechrau mis Gorffennaf. Rydym hefyd wrthi’n trafod gyda BT ynghylch yr eiddo preswyl sy’n weddill. Fe roddaf y diweddaraf ar hynny hefyd i’r aelodau yn y man.
Yn ogystal â’r camau y sonnir amdanynt uchod, mae’n fwriad gennym gyflawni cynllun newydd i sicrhau bod cysylltiad cyflym iawn ar gael i bob cartref a busnes o bob cwr o Gymru nad ydynt wedi’u pennu fel rhan o’r Arolwg o’r Farchnad Agored nac yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru.
Rhagwelwn y bydd y cynllun newydd yn defnyddio ystod o dechnolegau gan gynnwys lloeren, diwifr a 4G i ddarparu cyflymderau chwim i gartrefi a busnesau lle bynnag y bônt. Bydd swyddogion yn dechrau ar y broses dendro'r wythnos hon i gael cymorth arbenigol i ddatblygu manylion y rhaglen. Y bwriad yw lansio’r rhaglen hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol hon i sicrhau bod Cymru yn un o’r gwledydd â’r cysylltiad gorau yn y byd.