Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar gam nesaf Dysgu yn y Gymru Ddigidol, rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth addysgu a dysgu. Mae'r rhaglen addysg hollbwysig hon yn cynnig amrywiaeth gyson o gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog, i randdeiliaid ledled Cymru, a all gefnogi a hwyluso'r gwaith o drawsnewid arferion digidol yn y dosbarth.

Ymhlith prif elfennau'r rhaglen mae:

  • Hwb - y platfform dysgu digidol i Gymru sy'n darparu un man i ddefnyddwyr gael gafael ar gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog.  Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer Hydref 2017 yn dangos y mewngofnodwyd 736,813 o weithiau yn ystod y mis - cynnydd o 55% o gymharu â Hydref 2016. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 23,000 o weithiau bob dydd ar gyfartaledd.
  • Buddsoddi ym Mand Eang Ysgolion - ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen i ddarparu band eang cyflym iawn i bob ysgol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn darparu cysylltiadau ffeibr ar gyfer 343 o ysgolion ledled Cymru drwy rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus. Bydd yn sicrhau bod amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau ar gael i ysgolion drwy Hwb, yn ogystal â chefnogi'r cwricwlwm newydd.  Hyd yma, mae band eang dros draean o'r ysgolion a dargedwyd wedi cael ei ddiweddaru wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, yn unol â'r disgwyliadau.
  • Diogelwch ar-lein mewn addysg - diogelwch ar-lein yw un o themâu craidd rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol.  Mae'r rhaglen ddiogelwch ar-lein yn adeiladu ar yr arbenigedd a'r gweithgarwch presennol i ddatblygu mwy o weithgarwch cynaliadwy i sicrhau diogelwch ar-lein ledled Cymru - yn ogystal â chynyddu nifer yr adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg.  Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymgynghori â rhanddeiliaid a phobl ifanc am ein cynllun gweithredu newydd ar ddiogelwch ar-lein a gaiff ei gyhoeddi erbyn Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ym mis Chwefror 2018.
  • Canllawiau Digidol Addysg i Ysgolion - caiff canllawiau eu cyhoeddi yn fuan i helpu ysgolion i ddeall sut gall materion sy'n ymwneud â rhwydwaith eu hardal leol effeithio ar eu cysylltiad â'r rhyngrwyd.  Materion sy'n ymwneud â rhwydwaith eu hardal leol sydd wrth wraidd problemau cysylltu weithiau, yn hytrach na'r cysylltiad band eang a ddarparwyd i'r ysgol. Bydd y canllawiau yn helpu ysgolion i ddeall y materion hyn, ac yn rhoi cyngor iddynt ar sut y gallant fynd i'r afael â nhw er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r buddsoddiad a wnaed fel rhan o raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. 
Yng ngham nesaf y rhaglen, rhoddir mwy o ddewis i athrawon o ran yr adnoddau digidol y gallant eu defnyddio yn y dosbarth, gan gyflwyno Google for Education i blatfform Hwb.  Mae'r datblygiad hwn yn adeiladu ar y set adnoddau sydd eisoes ar gael gan Office 365 a Just2easy, gan alluogi athrawon i ddewis o amrywiaeth ehangach o adnoddau fel Google Classroom, sy'n hwyluso cydweithio o fewn y dosbarth, a chyfleuster rheoli dyfeisiau Chromebook. Mae fy swyddogion yn cydweithio'n agos â thîm Google Education i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn gallu gwneud y mwyaf o'r adnoddau newydd a chyffrous hyn yr ydym yn gobeithio eu darparu drwy Hwb yn y gwanwyn 2018.

Mae'r datblygiad newydd hwn wedi'i sefydlu yn sgil adborth gan ysgolion wrth inni barhau i ddatblygu'r amrywiaeth orau bosibl o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi athrawon a dysgwyr wrth ddarparu'r cwricwlwm newydd.  Ar sail yr adborth parhaus hwn, ni fyddwn yn adnewyddu platfform dysgu rhithiol Hwb+ unwaith daw'r contract presennol i ben ym mis Awst 2018, ond byddwn yn sicrhau bod y camau y byddwn yn eu datblygu nawr ac yn y dyfodol yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion ymarferol sydd gan ysgolion.  

Byddwn yn cyfathrebu ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol am y datblygiadau newydd hyn i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio ar y cyfarpar a'r adnoddau digidol newydd pan fyddant ar gael.  Byddwn hefyd yn cynnig cymorth i ysgolion yn uniongyrchol i hwyluso'r trosglwyddo o blatfform Hwb+.

Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd ichi ar y rhaglen hon dros y misoedd i ddod.