Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n falch o gyhoeddi cynnydd cadarnhaol pellach yn y broses o recriwtio meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru ar ddiwedd y tri chylch recriwtio yn 2020. Eleni, rydym wedi recriwtio 200 o feddygon teulu dan hyfforddiant – y nifer uchaf erioed – gan ragori ar y targed sylfaenol o 136 yn y gorffennol yn ogystal â’r dyraniad newydd uwch o 160 o leoedd hyfforddiant y cytunwyd arno y llynedd. Mae hyn yn adeiladu ar y 186 o feddygon teulu dan hyfforddiant a gafodd eu recriwtio y llynedd a’r cyfraniad positif parhaus at gyflawni gwasanaethau gofal sylfaenol cynaliadwy.
Mae hyn yn amlygu ymhellach lwyddiant yr ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol, Hyfforddi Gweithio Byw, wrth gefnogi Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddenu rhagor o feddygon teulu dan hyfforddiant i Gymru.
Mae’r ymgyrch yn parhau i gael ei chefnogi gan ddau gynllun cymhelliant ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu; cymhelliant wedi’i dargedu o £20,000 ar gyfer hyfforddeion mewn ardaloedd yn y Canolbarth, y Gogledd a’r Gorllewin, a chymhelliant cyffredinol i dalu costau arholiadau. Mae’r ddau gynllun cymhelliant wedi cael eu hymestyn am flwyddyn arall, a hynny ar gyfer y tri chylch recriwtio yn 2021.
Mae hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru wedi gwella eto yn sgil cyflwyno model newydd sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu. Fel rhan o’r model hwn, a gyflwynwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae hyfforddeion bellach yn treulio 12 mis yn gweithio mewn ysbyty a 24 mis yn gweithio mewn practis cyffredinol, gan newid o’r drefn o dreulio 18 mis yn gweithio mewn ysbyty a 18 mis yn gweithio mewn practis cyffredinol. Cafodd y model diwygiedig ar gyfer hyfforddi meddygon teulu ei gyflwyno i ddechrau mewn Cynlluniau Hyfforddi Meddygon Teulu ym Mangor, Dyffryn Clwyd, Wrecsam, Caerdydd a Gwent o fis Awst 2019 ac mae bellach wedi cael ei gyflwyno fel rhan o’r chwe Chynllun Hyfforddi Meddygon Teulu arall ledled Cymru. Mae’r model hwn yn darparu’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn yr amgylchedd sy’n fwyaf perthnasol i’r yrfa y bydd yr hyfforddeion yn ei dewis.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i sicrhau ei bod yn denu rhagor o weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol i ardaloedd yng Nghymru lle bu'n anodd, yn y gorffennol, i lenwi swyddi, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig yn y Gorllewin. Atgyfnerthais yr ymrwymiad hwnnw drwy ymestyn cynllun Cymrodyr Academaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru am ddwy flynedd arall, hyd 2022-23.
At hynny, fel rhan o’n camau ehangach i gefnogi practisau cyffredinol a gofal sylfaenol, y llynedd, cyflwynais adnoddau allweddol sy’n rhyngweithio â’i gilydd i lywio a chefnogi cynaliadwyedd y gweithlu gofal sylfaenol: ‘GPWales’, llwyfan recriwtio i fodloni holl anghenion gweithlu'r maes ymarfer cyffredinol, y Gofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan a System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru.
Ers ei lansio ym mis Medi 2019, mae GPWales wedi hysbysebu 525 o swyddi mewn practisau cyffredinol ledled Cymru, gyda dros 46,000 o ddefnyddwyr unigol yn ymweld â’r safle o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae’r Gofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan wedi bod yn llwyddiant aruthrol, ac wedi gwella eto yn sgil datblygu’r adnodd Locum Hub Wales. Ar 23 Hydref 2020, roedd 1,330 o feddygon teulu locwm (gan gynnwys cofrestryddion) wedi’u cofrestru, gan helpu meddygon locwm a phractisau cyffredinol i ddod o hyd i atebion addas, effeithiol a syml i’w hanghenion.
Mae System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru bellach yn cynnig adnodd gwybodaeth rhyngweithiol, cywir am y gweithlu sy’n helpu practisau meddygon teulu a byrddau iechyd i feithrin gwell dealltwriaeth o ddemograffeg y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru a chynllunio gweithluoedd yn fwy effeithiol.
Mae’r pandemig presennol wedi dangos pa mor hanfodol yw ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gwych a’r ymroddiad y mae wedi ei ddangos, ac yn parhau i’w ddangos, wrth ymateb i COVID-19.