Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ddydd Llun (Medi 4), cadarnhawyd y byddai dwy ysgol yn Ynys Môn, sydd â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn eu hadeiladau, yn cau dros dro er mwyn gallu gwneud archwiliadau diogelwch pellach.
Drwy gydol yr wythnos hon, mae pob awdurdod lleol, sydd â chyfrifoldeb statudol dros gynnal a chadw adeiladau ysgol yng Nghymru, wedi bod yn adolygu eu hystâd ysgolion er mwyn dod o hyd i unrhyw rannau a allai gynnwys RAAC.
Hyd yma, ni ddaethpwyd o hyd i RAAC mewn unrhyw ysgolion eraill yng Nghymru. Heddiw rydym yn cyhoeddi sefyllfa ddiweddaraf pob awdurdod lleol, wrth i’r gwaith asesu barhau (gweler yr atodiad). Bydd gennym ddarlun cyflawn erbyn 15 Medi fan bellaf.
Hoffem ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg ac mewn awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino ers i Adran Addysg Llywodraeth y DU gyhoeddi ei hasesiad risg diwygiedig ar gyfer RAAC.
Gwyddom fod rhai rhieni a staff wedi bod yn bryderus. Ein blaenoriaeth bob amser fydd sicrhau diogelwch dysgwyr a staff. Rydym yn gweithredu'n gyflym ar y wybodaeth newydd a ddarparwyd gan yr Adran Addysg.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi bod yn ymwybodol bod gan y ddwy ysgol uwchradd rywfaint o RAAC yn eu hadeiladau ers 2020 ac wedi bod yn cynnal arolygon blynyddol, yn unol â chyngor ac arweiniad a gyhoeddwyd yn flaenorol. Aeth y Cyngor Sir ati, ynghyd â phenaethiaid a staff y ddwy ysgol, i weithredu'n gyflym yr wythnos hon, a rhaid canmol eu gwaith.
Ailagorwyd Ysgol David Hughes yn rhannol ar 7 Medi i flynyddoedd 7, 11 a 12, ac ymunodd blwyddyn 8 heddiw (8 Medi). Yn anffodus, nid yw Ysgol Uwchradd Caergybi wedi gallu agor campws yr ysgol i ddisgyblion gan fod rhagor o waith ymchwilio ar y gweill. Fodd bynnag, mae disgyblion wedi cael gwahoddiad i ddosbarthiadau ar-lein o ddydd Iau ymlaen.
Gwnaed y trefniadau dros dro hyn o ganlyniad i weithredu pendant a chydweithio effeithiol. Bydd canlyniadau'r arolygon ymchwiliol yn penderfynu sut a phryd y gellir cymryd camau pellach.
Mae RAAC wedi cael ei ddefnyddio mewn adeiladau cyhoeddus ar draws y DU - mae hyn yn broblem i holl lywodraethau'r DU ei rheoli. Mae'n rhaid inni weithio ar y cyd i sicrhau diogelwch plant, staff ysgolion a'r cyhoedd. Ar 4 Medi, fe wnaethom ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn galw am gyfarfod brys o’r gweithgor trawslywodraethol ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth. Rydym yn croesawu’r ffaith bod y grŵp hwn bellach wedi cyfarfod lle cafodd rhagor o dystiolaeth ei rhannu.
Gofynnom hefyd i'r Adran Addysg am yr asesiadau technegol sy'n ymwneud â'r wybodaeth a roddwyd inni nos Sul, ac mae’r rhain bellach wedi'u darparu hefyd. Mae'r Sefydliad Peirianwyr Strwythurol wedi cadarnhau nad yw ei ganllawiau yn newid ar sail y dystiolaeth newydd.
Addysg bellach ac uwch
Rydym yn gweithio'n agos gyda CholegauCymru i sicrhau bod gennym ddarlun llawn o effaith RAAC yn y sector. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r sector AB wedi elwa ar fuddsoddiad cyfalaf sylweddol gyda champysau newydd ar draws Cymru, sy’n lleihau'r tebygolrwydd o unrhyw RAAC. Rydym yn falch iawn o'n hanes profedig mewn perthynas ag adeiladau ysgolion a cholegau. Mae ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn darparu'r rhaglen adeiladu fwyaf ers y 1960au i fynd i'r afael ag adeiladau ysgolion a cholegau sy'n heneiddio.
Mae asesiadau rhagarweiniol yn cael eu cynnal o'r ystâd gyfan. Mae cyfarwyddwyr ystadau addysg bellach yn gweithio i gwblhau asesiadau o’r ystâd gyfan a byddant yn rhoi’r darlun diweddaraf erbyn 15 Medi, yn yr un modd ag ysgolion. Yn y cyfamser, mae diogelwch dysgwyr a staff yn parhau i fod yn hollbwysig.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda CCAUC a Phrifysgolion Cymru i gael darlun llawn o effaith RAAC yn y sector addysg uwch. Bydd prifysgolion yn cynnal asesiadau, gan weithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau Prifysgolion (AUDE), sy'n cynnal arolwg o sefydliadau.
Yr ystâd gyhoeddus ehangach
Mae Ystadau Cymru, sy'n arwain ar annog rhagoriaeth o ran rheoli ystâd sector cyhoeddus Cymru drwy gydweithredu strategol a chanllawiau arfer da, wedi cyhoeddi arolwg newydd i nodi RAAC mewn adeiladau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi'r wybodaeth newydd am RAAC yn ystâd ysgolion Lloegr gan Adran Addysg Llywodraeth y DU.
Mae dau gam i’r broses hon - y cam cyntaf fydd casglu gwybodaeth gryno lefel uchel gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sydd â phortffolios eiddo cyhoeddus, er mwyn i ni gael darlun cliriach o ba waith sydd eisoes wedi'i wneud a'r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod ein holl ystâd gyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys nodi pryd y cynhaliwyd arolygon neu arolygiadau RAAC ddiwethaf, canlyniadau'r arolygon hynny a gwybodaeth am hyd a lled a math yr eiddo lle mae RAAC yn bresennol neu lle gallai fod yn bresennol. Bydd yr wybodaeth hon ar gael erbyn 15 Medi.
Yr ail gam fydd gofyn am wybodaeth fanylach am bob eiddo sydd wedi’u nodi fel rhai â RAAC neu yr amheuir eu bod yn cynnwys RAAC, gan gynnwys y defnydd a wneir o’r eiddo er enghraifft swyddfeydd, theatrau, cyfleusterau hamdden. Bydd yr wybodaeth hon ar gael o fewn 28 diwrnod, a bydd wedyn yn cael ei ddadansoddi i benderfynu pa waith sydd angen ei wneud.
Rydym yn parhau i argymell bod y canllawiau presennol gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol yn cael eu defnyddio i ymchwilio ac asesu presenoldeb RAAC mewn adeiladau cyhoeddus. Mae eu canllawiau atodol, a gyhoeddwyd eleni, yn cynnwys cyngor ar asesu risg, cyweirio a rheoli pan ganfyddir bod RAAC yn bresennol.
Atodiad
Cyngor Ynys Môn – RAAC yn effeithio ar ddwy ysgol. Gwefan
Cyngor Blaenau Gwent – dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr – dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Caerffili – dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Caerdydd – dim effaith ar y rhan fwyaf o’r ysgolion; gwiriadau yn parhau. Neuadd Dewi Sant ar gau dros dro. Gwefan
Cyngor Sir Caerfyrddin – canlyniadau cychwynnol yn dangos nad oes unrhyw effaith ar ysgolion; arolygon ehangach yn cael eu cynnal ar rai ysgolion. Dim effaith ar unrhyw eiddo arall. Gwefan
Cyngor Ceredigion – dim pryderon uniongyrchol ond rhagor o asesiadau manwl yn parhau. Gwefan
Cyngor Conwy – heb nodi unrhyw bryderon. Gwefan
Cyngor Sir Ddinbych - dim effaith ar ysgolion nac adeiladau eraill. Gwefan
Cyngor Sir y Fflint – dim adroddiad am RAAC yn unrhyw un o’r adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor. Gwefan
Cyngor Gwynedd – gwaith yn mynd rhagddo i gadarnhau'r sefyllfa yng Ngwynedd; pob ysgol ar agor fel arfer. Gwefan
Merthyr Tudful – dim effaith ar ysgolion na lleoliadau gofal plant. Gwefan
Cyngor Sir Fynwy – dim effaith ar ysgolion. Arolygon o adeiladau eraill yn parhau. Gwefan
Cyngor Castell-nedd Port Talbot – dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Casnewydd – dim pryderon uniongyrchol. Gwefan
Cyngor Sir Penfro - dim concrid awtoclafiedig wedi'i nodi yn unrhyw eiddo'r cyngor. Gwefan
Cyngor Powys – ddim yn ymwybodol o effaith ar unrhyw ysgolion ond rhai arolygiadau ychwanegol yn cael eu cynnal. Gwefan
Cyngor Rhondda Cynon Taf – dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Abertawe - dim effaith ar ysgolion. Gwefan
Cyngor Torfaen – dim problemau hysbys ar hyn o bryd. Gwefan
Cyngor Bro Morgannwg – y cyngor yn adolygu ei holl eiddo, gan gynnwys ysgolion. Gwefan
Cyngor Wrecsam – pob adeilad yn cael ei arolygu i nodi unrhyw broblemau. Pob ysgol ar agor fel arfer. Gwefan
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.