Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog dros Addysg Gydol-oes a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin, amlinellodd Prif Weinidog Cymru gynlluniau’r Llywodraeth hon ar gyfer blwyddyn gyntaf ein Rhaglen Ddeddfwriaethol. Rwy'n falch iawn y bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn rhan o'r Rhaglen hon. Bydd y Bil hwn yn diwygio'r fframweithiau cyfreithiol presennol ar gyfer cefnogi plant a phobl ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD).

Rydym am drawsnewid y disgwyliadau, y profiadau a’r deilliannau ar gyfer dysgwyr ag ADY. Mae'r broses hon eisoes ar waith drwy raglen gynhwysfawr o ddiwygiadau ehangach, ond mae cyflwyno deddfwriaeth yn gam allweddol ar y daith hon.

Rwy'n cyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2015. Mae hyn yn unol â’r cyhoeddiad a wnaed gan y cyn-Weinidog Addysg a Sgiliau ar 16 Mawrth 2016, sef y byddai crynodeb o'r fath yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth newydd yn dilyn etholiad y Cynulliad.

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r adborth o'r rhaglen ymgysylltu eang a oedd yn cyd-fynd ag ef yn gefnogol iawn o’r egwyddorion sy'n sail i'n diwygiadau.  Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon hefyd wrth gwrs. Roedd rhai yn adlewyrchu dymuniad yr ymatebwyr i weld rhagor o fanylder, ac eraill yn dangos camddealltwriaeth o'n bwriadau neu effaith ymarferol ddisgwyliedig ein cynigion. Roedd rhai hefyd yn mynegi pryderon am agweddau penodol ar y cynigion.  Cafodd yr holl adborth a ddaeth i law ei ystyried yn ofalus a'i ddefnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu’r ddeddfwriaeth, y Cod ADY drafft ac, yn bwysicach, y Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach. Byddaf yn sôn mwy am y Rhaglen Drawsnewid maes o law.

Ni wnaeth y rhaglen ymgysylltu eang a gynhaliwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Bil drafft ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol; mae'n parhau'n flaenoriaeth. Cyfarfu grŵp o ymarferwyr arbenigol - Grŵp Datblygu Cynnwys y Cod ADY - tan fis Ebrill 2016 gan wneud cyfraniad sylweddol a gwerthfawr at y broses o ddatblygu fersiwn nesaf y Cod ADY drafft. Rwy'n disgwyl i'r fersiwn nesaf hon o'r Cod fod ar gael pan fydd y Bil ADY yn mynd drwy'r Cynulliad, er mwyn cefnogi’r gwaith o graffu ar y ddeddfwriaeth. Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Strategol ADY (ALN-SIG) sy'n cynnwys partneriaid perthnasol. Tasg y grŵp hwn yw cynllunio ar gyfer symud i'r system newydd, a datblygu arferion a phrosesau i sicrhau bod Rhaglen Trawsnewid ADY yn cael ei gweithredu a'i monitro'n effeithiol.

Rwy'n disgwyl i'r cydweithio hwn ehangu wrth i ni symud ymlaen gyda'n cynlluniau. Edrychaf ymlaen at weithio â phartneriaid ar draws y llywodraeth, y pleidiau a sectorau i lunio a gweithredu system newydd gadarn y mae defnyddwyr ac ymarferwyr yn ei chefnogi, sy'n gynaliadwy yn y tymor hir ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol wirioneddol er lles ein dysgwyr mwyaf agored i niwed.