Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r astudiaeth ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gennym y llynedd, a gynhaliwyd gan LE Wales, wedi cael ei chwblhau drwy lunio ail adroddiad. Mae’r ail adroddiad hwn yn nodi ac yn gwerthuso set o opsiynau posibl i wneud gwaith diwygio pellach ar y trefniadau ar gyfer codi tâl am ofal a chymorth preswyl ac amhreswyl fel ei gilydd. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys gwaith diwygio posibl ar agweddau unigol ar y trefniadau posibl, yn ogystal â gwaith diwygio mwy sylfaenol ar y trefniadau yn eu cyfanrwydd. Byddai unrhyw ddiwygio o’r fath yn digwydd yng nghyd-destun ein gwaith diwygio cychwynnol a wnaed yn 2011 i sicrhau nad oes modd codi mwy nag uchafswm o £60 yr wythnos ar hyn o bryd ar y rheini sy’n derbyn gofal cartref a gofal a chymorth arall yn y gymuned.
Mae’r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Talu am Ofal, a adalwyd yn yr hydref y llynedd, hefyd wedi cwblhau ei drafodaethau drwy lunio’i adroddiad ei hun. Ystyriodd y Grŵp amryw faterion ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer codi tâl a sut y mae’r rhain yn effeithio ar y rheini sy’n gorfod talu am eu gofal a’u cymorth. Hefyd, ystyriodd a chyflwynodd ei safbwyntiau ei hun ar bob un o’r opsiynau posibl ar gyfer diwygio pellach a nodwyd gan LE Wales.
Bellach rwyf wedi cael y cyfle i ystyried y ddau adroddiad yn fanwl. Roedd manylder ac ansawdd yr wybodaeth a’r canfyddiadau yn y ddau adroddiad yn arbennig, ac felly hoffwn gofnodi fy niolchiadau i’r rheini a fu’n gweithio i’w llunio. Maent yn rhoi tystiolaeth i’n meddylfryd ar y math o waith ddiwygio a ddylai ddigwydd. Rwy’n cyhoeddi’r ddau adroddiad, ac maent ar gael ar lein.
Fodd bynnag, wrth ystyried yr opsiynau posibl ar gyfer diwygio, mae angen bod yn eglur ar ddau fater allweddol cysylltiedig sydd â’r potensial i gael dylanwad materol ar natur ein gwaith diwygio, sef:
- yr ansicrwydd ynghylch manylder y gwaith diwygio a allai ddigwydd yn Lloegr. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymgynghori ar reoliadau a chanllawiau drafft i wneud y diwygiadau y mae am eu gweld o fis Ebrill 2016, ond nid yw wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad am ganlyniad hyn cyn yr etholiad cyffredinol. O ganlyniad, mae ansicrwydd o hyd ynghylch pa fath o ddiwygio fydd yn digwydd yn Lloegr a pha gyllid canlyniadau a ddaw i Gymru o ganlyniad i gyllid newydd ar gyfer hyn. Mae hyn yn bwysig o ystyried y cyllid sylweddol sydd ynghlwm â’r opsiynau diwygio posibl a nodwyd gan LE Wales;
- dyfodol diwygio budd-daliadau lles a phensiynau. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi gwneud newidiadau sylweddol i weithrediad a lefel budd-daliadau lles a phensiynau yn y DU. Incwm o’r fath yw sut mae pobl gan fwyaf yn talu unrhyw dâl am y gofal a’r cymorth y maent yn ei dderbyn. O ganlyniad, ni fydd yn eglur tan ar ôl yr etholiad cyffredinol pa fath o waith diwygio y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud, ac effaith hyn ar incwm y rheini sydd yn y sefyllfa hon yng Nghymru. Ar ben hyn, mae dyfodol budd-daliadau lles yn y DU wedi cael ei gwestiynu yn dilyn y Comisiwn Smith ar ddyfodol datganoli yn yr Alban. Mae hyn yn creu mwy o ansefydlogrwydd o ran polisi yn y maes hwn.
O ystyried yr ansicrwydd hwn, a pha mor bwysig yw’r wybodaeth hon, rwyf wedi dod i’r casgliad na fydd modd i mi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa waith diwygio parhaol i’w gychwyn yng Nghymru nes bod modd datrys y materion hyn yn well. O ystyried yr amserlenni dan sylw, ni fydd yn bosibl cychwyn y gwaith diwygio hwn ym mis Ebrill 2016 fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Serch hynny, o fis Ebrill 2016 byddaf yn sefydlu fframwaith asesu a chodi tâl ariannol o fan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant (Cymru) Act2014. Bydd hyn yn cydbwyso rhwng diogelu’r rheini ar incwm isel sy’n derbyn gofal a chymorth, gan roi hyblygrwydd ar yr un pryd i awdurdodau lleol gasglu cyfraniad at y gost o ddarparu hyn er mwyn cynnal y ddarpariaeth honno. Bydd y fframwaith, gan fwyaf, yn cydgrynhoi trefniadau presennol, ond bydd yn eu cryfhau mewn sawl maes pwysig i’w gwneud yn fwy eglur a chyson. Dyma fydd prif elfennau’r fframwaith hwn:
- un set o drefniadau asesu ariannol yn lle’r gwahanol trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer codi tâl am ofal a chymorth preswyl ac amhreswyl;
- cadw’r uchafswm wythnosol presennol a ‘byffer’ ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, yn ogystal â’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir ar hyn o bryd i benderfynu pwy sy’n talu’r gost lawn am ofal preswyl;
- cadw’r rhestr bresennol o unigolion, neu fathau o ofal a chymorth, na ellir codi tâl amdanynt, e.e. gwneud asesiad ariannol neu ofal cartref am ddim am chwe wythnos ar ôl cyfnod yn yr ysbyty;
- yn unol â pholisïau cyfredol, galluogi awdurdod lleol i godi tâl ar gyfradd wastad isel ar gyfer darparu ataliaeth neu gymorth (mae’r Deddf yn eithrio darparu gwybodaeth neu gyngor);
- gwneud pethau’n fwy tryloyw drwy ymestyn y gofyniad i bawb y codir tâl arnynt dderbyn datganiad yn rhoi’r manylion a sut cafodd ei gyfrifo;
- cyflwyno proses adolygu gyson a chyffredinol i ganiatáu i berson herio taliadau a godir a chywiro gwallau;
- cadw taliadau wedi’u gohirio i ganiatáu gwerthu eiddo er mwyn talu am ofal preswyl tan adeg sy’n fwy addas, a galluogi awdurdod lleol i godi cyfradd isel o log ar y swm sy’n cael ei ohirio er mwyn helpu i wneud trefniadau o’r fath yn niwtral o ran cost i awdurdodau.
Byddaf yn ymgynghori’n fuan ar y rheoliadau a’r cod ymarfer drafft sy’n ofynnol o dan y Ddeddf i gyflwyno fframwaith o’r fath, fel rhan o’r ail tranche o ymgynghori cyhoeddus ar y rheoliadau, y codau a’r canllawiau statudol sy’n angenrheidiol i roi’r Ddeddf ar waith.
Bydd y fframwaith newydd hwn yn arwain at waith diwygio pellach pan fydd pethau’n ddigon eglur i allu gwneud hynny.