Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y cyfnod adfer ar ôl COVID, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i wneud Cymru'n lle da i weithio a gwneud busnes ynddi, tra hefyd yn cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yn ein cadwyni cyflenwi i ffynnu.

Mae polisi Cyfrifon Banc Prosiectau (PBA) Llywodraeth Cymru yn un o'r ysgogiadau sy'n cydnabod y rôl hollbwysig y mae BBaChau yn ei chwarae wrth gyflawni prosiectau'r sector cyhoeddus ond hefyd y risgiau y gall trefniadau is-gontractio eu cyflwyno, yn enwedig problemau llif arian a all godi oherwydd telerau talu.

Cyfrifon banc wedi'u clustnodi yw PBA gyda statws ymddiriedolaeth sy'n gweithredu fel mecanwaith ar gyfer gwneud taliadau yn unig. Mae PBAs yn disodli'r telerau talu aml-haen traddodiadol rhwng haenau dilynol yn y gadwyn gyflenwi gyda thaliadau ar y pryd i'r contractwr arweiniol a phartneriaid y gadwyn gyflenwi.  Mae dulliau talu traddodiadol wedi arwain at is-gontractwyr yn gorfod rheoli telerau talu 60-90 diwrnod, neu hirach, mewn rhai achosion. I'r gwrthwyneb, mae taliadau drwy PBA fel arfer yn cymryd rhwng 3-5 diwrnod o adneuo arian i'r cyfrif ar ôl ardystio'r amserlen dalu.

Mae defnyddio PBAs yn cyd-fynd â gweledigaeth Datganiad Polisi Caffael Cymru 2021 ar gyfer Caffael yng Nghymru, yn benodol Egwyddor 5 sy'n hyrwyddo cefnogaeth i amcanion polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chaffael blaengar, gan gynnwys y rhai sy'n meithrin cadwyni cyflenwi lleol gwydn.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r polisi i'w gaffaeliadau ei hun ond mae'r polisi wedi cael ei effaith fwyaf drwy ei wneud yn amod cyllid yn ein prif raglenni buddsoddi cyfalaf, er enghraifft Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Yn bwysicaf oll, rydym yn gwybod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth gydag adborth cadarnhaol gan is-gontractwyr.

Ym mis Mehefin 2021, mae contractau gwerth ychydig dros £1.4bn wedi ymrwymo i ddefnyddio ein polisi Cyfrifon Banc Prosiectau ac mae nifer y prosiectau yn parhau i dyfu.

Hefyd, mae tîm Polisi Masnachol Llywodraeth Cymru yn rheoli Grŵp Cymuned Ymarfer Cyfrifon Banc Prosiectau, gan ddod â chydweithwyr yn y sector cyhoeddus at ei gilydd i rannu gwybodaeth a phrofiad wrth weithredu PBAs.