Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Yn fy Natganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mehefin 2012, lansiwyd ymgynghoriad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau, sef yr Ymgynghoriad ar “Ymlaen mewn partneriaeth dros blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol: Cynigion ar gyfer diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghenion addysgol arbennig”.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 26 Mehefin a 19 Hydref 2012. Fodd bynnag, daeth adborth i law oddi wrth randdeiliaid yn dweud y byddai’n fuddiol gohirio diwygio’r ddeddfwriaeth. Rydym yn cytuno y byddai hynny’n rhoi mwy amser inni weithio gyda’n prif bartneriaid i ymchwilio’n fanylach i oblygiadau’r cynigion. Bydd y newidiadau a gyflwynir i’n ffordd o roi cymorth i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn rhai cymhleth a sylweddol, ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr eu bod yn hollol briodol. Trwy roi mwy o amser nawr, byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn ymateb mewn modd mwy effeithiol i’r adborth a roddir gan ein rhanddeiliaid ynghylch anghenion ychwanegol. Rydym yn parhau â’n bwriad i ddeddfu yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn.

Daw’r ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 19 Hydref 2012, a chyhoeddir adroddiad yn crynhoi’r ymatebion maes o law, ond rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion barhau i weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol dros y misoedd nesaf i sicrhau bod manylion gweithredu’r cynigion yn glir cyn i’r cynigion deddfu gael eu cyflwyno yn nhymor presennol y Cynulliad.