Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 6 Gorffennaf 2015, cyhoeddais y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft (‘y Bil drafft’) at ddibenion ymgynghori. Ym mis Medi, cyhoeddais God Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft, ynghyd ag amlinelliad o’r amserlenni posibl ar gyfer gweithredu’r system newydd arfaethedig.  

Cyflawnwyd rhaglen ymgysylltu eang yn ystod y cyfnod ymgynghori, a ddaeth i ben ar 18 Rhagfyr. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad amlasiantaeth mawr - un yn y Gogledd ac un yn y De; cyfres o weithdai’n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc a’u gofalwyr; a chyfres o sesiynau penodol ond anffurfiol ar gyfer rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector. Cafwyd 264 o ymatebion ysgrifenedig; daeth 158 o bobl i’r digwyddiadau ymgynghori ffurfiol; a chymerodd 267 o blant, pobl ifanc a gofalwyr ran yn y gweithdai ymgysylltu.

Yn ôl yr arfer, bydd fy swyddogion yn paratoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gyfer ei gyhoeddi. Fodd bynnag, gan fod etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai mor agos, ni fyddwn yn ei gyhoeddi cyn hynny – caiff ei gyhoeddi gan y Llywodraeth nesaf ar ôl yr etholiad. Mater i’r Llywodraeth honno fydd gwneud penderfyniad ynghylch cyflwyno Bil i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol i’r Llywodraeth newydd allu ystyried yr ymatebion cyn cyhoeddi crynodeb.  

Fodd bynnag, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddatgan bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau system addysg hollol gynhwysol yma yng Nghymru, a hoffwn gadarnhau unwaith eto ein hymrwymiad i’w diwygio. Felly, parhau i fynd rhagddo y mae’r gwaith o fireinio’r Bil drafft; datblygu’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r deunyddiau ategol; creu cynllun gweithredu manwl; a helpu’r gweithlu i ennill y sgiliau y mae eu hangen arnynt i fodloni anghenion ein holl ddysgwyr mewn modd effeithiol. Caiff  y gwaith hwnnw a’r gwaith ar y pecyn ehangach o ddiwygiadau eu llywio gan yr ymatebion i’r ymgynghoriad; yr adborth a gasglwyd wrth ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid; a chasgliadau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth iddynt graffu ar y Bil drafft cyn iddo gael ei ddeddfu.  

Rwy’n ddiolchgar am ymrwymiad parhaus y rhanddeiliaid a’r partneriaid o wahanol asiantaethau sy’n gweithio gyda ni i ddatblygu ein diwygiadau. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gydag arbenigwyr a phobl broffesiynol allweddol drwy Grŵp Datblygu Cynnwys y Cod, sy’n trafod y materion sy’n berthnasol i ddatblygu’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydym hefyd wedi ffurfio Grŵp Gweithredu Strategol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n tynnu ei aelodau o amryw sectorau. Gofynnwyd i’r Grŵp ddatblygu cynllun gweithredu priodol ac ymarferol ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau, gan baratoi canllawiau ar bontio i helpu’r bobl a fydd yn gyfrifol am roi’r model newydd ar waith ac am hyrwyddo newid o fewn eu sefydliadau a’u sectorau yn ehangach. Hefyd rydym wedi sefydlu Gweithgor Ôl-16 i edrych yn benodol ar y gwaith o gynllunio a gweithredu elfennau ôl-16 ein diwygiadau. Ochr yn ochr â hyn i gyd, mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth i fwrw ymlaen â phecyn o waith ac ymgysylltiad ehangach mewn perthynas ag iechyd.

Fel y dywedais yn fy Natganiad Gweinidogol Ysgrifenedig ar 6 Gorffennaf, rwy’n awyddus i weld y Bil yn cael ei gyflwyno at ddibenion craffu ffurfiol yn gynnar yn y Cynulliad newydd. Er y bydd hyn yn benderfyniad i’r Llywodraeth nesaf ei wneud, rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ddatblygu consensws gwleidyddol er mwyn dwyn ymlaen, cyn gynted â phosibl, ddeddfwriaeth drwyadl sydd wedi ennill cefnogaeth lawn, ac sy’n ymarferol weithredol.