Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddais adolygiad annibynnol o'r System Diogelu Iechyd yng Nghymru. Roedd yr adolygiad yn gadarnhaol ynglŷn â’r ffordd y gwnaethom weithio i ymateb i bandemig Covid-19, a chafodd nifer o argymhellion eu gwneud er mwyn cryfhau'r system diogelu iechyd yng Nghymru ymhellach.

Cyhoeddais hefyd gynllun gweithredu, a oedd yn disgrifio ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adolygiad. Ar y pryd, ymrwymais i gyhoeddi diweddariad ar ein gwaith yn 2024. Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'n cynnydd hyd at fis Ebrill 2024, sy’n cydnabod y gwaith partneriaeth parhaus ar draws Cymru ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’r camau yr ydym yn eu cymryd i greu system diogelu iechyd fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed i gyflawni amcanion Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

Mae datblygu ein system diogelu iechyd yn broses barhaus, ac mae rhagor o waith i'w wneud o hyd. Mae'r diweddariad yn amlinellu'r camau nesaf yr ydym yn eu cymryd i gryfhau ein system diogelu iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu Fframwaith Diogelu Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Cymru.

Hoffwn ddiolch i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad parhaus wrth inni adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd a pharhau i ddysgu o'r pandemig a rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith.